Toglo gwelededd dewislen symudol

Atebion i'ch cwestiynau

Frequently asked questions

Beth os nad ydw i'n siarad Cymraeg?

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun! Daw'r rhan fwyaf o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys o gartrefi lle nad oes fawr ddim Cymraeg yn cael ei siarad.

Mae athrawon wedi arfer â hyn ac yn gallu cefnogi eich teulu. Gofynnwch i'ch ysgol leol eich rhoi mewn cysylltiad â rhieni sydd eisoes wedi dewis addysg Cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Sut fydda i'n gallu helpu gyda gwaith cartref?

Mae gwaith cartref fel arfer yn estyniad o waith dosbarth, felly ni ddylai gynnwys unrhyw beth anghyfarwydd i'ch plentyn. Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gallech ofyn iddo egluro'r gwaith a'i drafod gyda chi yn eich iaith gartref. Gall y broses o drosglwyddo gwybodaeth o un iaith i'r llall helpu plant i ddysgu a deall y gwaith.

Darllenwch y daflen cymorth gwaith cartref am ragor o awgrymiadau defnyddiol (PDF) [534KB]

Beth am gludiant?

Mae Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant am ddim o'r cartref  i'r ysgol i addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion cynradd sy'n byw mwy na 2 filltir oddi wrth darparwr agosaf, ac i ddisgyblion uwchradd agosaf sy'n byw mwy na 3 milltir oddi wrth y darparwr agosaf.

Beth yw ysgol cyfrwng Cymraeg neu Ddwyieithog?

Dyma ysgol lle caiff pob dysgwr yn yr ysgol ei addysgu a'i gefnogi i fod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg (tra byddant hefyd yn astudio ieithoedd tramor modern). Oherwydd eu bod yn cefnogi pob dysgwr i ddod yn ddwyieithog, weithiau fe'u gelwir yn ysgolion dwyieithog.

Beth yw ysgol dwy ffrwd?

Ysgolion lle dim ond rhai o'r dysgwyr sy'n cael eu haddysgu mewn modd a fydd yn eu galluogi i ddod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Yn yr ysgolion hyn, mae rhai dysgwyr yn derbyn addysg mewn dosbarth iaith Saesneg, ac eraill mewn dosbarth a addysgir yn bennaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Dewis y rhiant/gofalwr yw pa ddosbarth neu 'ffrwd' y bydd eu plentyn yn mynd iddo. 

Beth os yw fy mhlentyn eisoes wedi dechrau mewn ysgol cyfrwng Saesneg? A fydd yn gallu derbyn addysg cyfrwng Cymraeg?

Gall dysgwyr oed cynradd drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg ar unrhyw adeg. Mae Cyngor Sir Powys yn darparu cyrsiau trochi dwys i blant sy'n symud i'r ardal neu ddysgwyr sy'n mynychu addysg cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd ac a hoffai drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg. Gwneir hyn drwy ganolfannau iaith neu drwy gymorth peripatetig. Mae'r cyrsiau yn ffordd llwyddiannus o drochi plant yn y Gymraeg a'u galluogi i drosglwyddo'n effeithiol i addysg cyfrwng Cymraeg. Gyda meddylfryd cadarnhaol ac addysgu effeithiol, mae plant yn caffael iaith yn hawdd iawn. Mae'r math yma o gyrsiau yn gweithio ar draws y byd a ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Iaith Maldwyn ac addysg drochi, cysylltwch â bethan.jones1@powys.gov.uk

Beth am Saesneg fy mhlentyn?

Bydd disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn dal i astudio Saesneg fel pwnc, gan ddechrau o flwyddyn 3. Wrth ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, mae plant yn dod yn ymwybodol o sut mae ieithoedd yn gweithio, sydd yn aml yn ei gwneud hi'n haws dysgu mwy o ieithoedd nes ymlaen. Dengys astudiaethau fod pobl ddwyieithog yn aml yn cyflawni canlyniadau profion gwell na phlant sy'n siarad yr un iaith yn unig.


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu