Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Atebion i'ch cwestiynau

Frequently asked questions

Mae'n naturiol bod â chwestiynau ynglŷn â sut beth yw addysg cyfrwng Cymraeg, sut y gallwch gefnogi eich plentyn gyda'i waith cartref a beth yw'r manteision o fod yn ddwyieithog.

Beth os nad ydw i'n siarad Cymraeg?

Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun! Daw'r rhan fwyaf o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys o gartrefi lle nad oes fawr ddim Cymraeg yn cael ei siarad.

Mae athrawon wedi arfer â hyn ac yn gallu cefnogi eich teulu. Gofynnwch i'ch ysgol leol eich rhoi mewn cysylltiad â rhieni sydd eisoes wedi dewis addysg Cyfrwng Cymraeg i'w plant.

 

Sut fydda i'n gallu helpu gyda gwaith cartref?

Mae gwaith cartref fel arfer yn estyniad o waith dosbarth, felly ni ddylai gynnwys unrhyw beth anghyfarwydd i'ch plentyn. Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gallech ofyn iddo egluro'r gwaith a'i drafod gyda chi yn eich iaith gartref. Gall y broses o drosglwyddo gwybodaeth o un iaith i'r llall helpu plant i ddysgu a deall y gwaith.

Darllenwch y daflen cymorth gwaith cartref am ragor o awgrymiadau defnyddiol

 

Beth am gludiant?

Mae Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant am ddim o'r cartref  i'r ysgol i addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion cynradd sy'n byw mwy na 2 filltir oddi wrth darparwr agosaf, ac i ddisgyblion uwchradd agosaf sy'n byw mwy na 3 milltir oddi wrth y darparwr agosaf.

 

Beth yw ysgol cyfrwng Cymraeg neu Ddwyieithog?

Ledled Cymru, ystyrir mai ysgol lle mae pob dysgwr yn yr ysgol yn cael ei addysgu a'i gefnogi i fod yn gwbl ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yw ysgol cyfrwng Cymraeg. (Byddant hefyd yn astudio ieithoedd tramor modern). Wrth iddynt weithio i ddarparu cwricwlwm i gefnogi dwyieithrwydd i bob dysgwr, cyfeirir atynt hefyd weithiau fel ysgolion dwyieithog hefyd.

 

Beth yw ysgol dwy ffrwd?

Ysgolion dwy ffrwd lle mai dim ond rhai o'r dysgwyr sy'n cael eu haddysgu mewn ffordd a fydd yn eu galluogi i ddod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol yw ysgolion ffrwd ddeuol. Yn yr ysgolion hyn, bydd rhai dysgwyr yn dysgu'r cwricwlwm trwy gyfrwng y Saesneg Saesneg, ac eraill yn dysgu'r cwricwlwm trwy gymysgedd o Gymraeg a Saesneg. Yn ei hanfod, ceir yn yr un ysgol ddysgwyr sy'n derbyn addysg ddwyieithog ac eraill sy'n derbyn addysg Saesneg.

 

Beth os yw fy mhlentyn eisoes wedi dechrau mewn ysgol cyfrwng Saesneg? A fydd yn gallu derbyn addysg cyfrwng Cymraeg?

Ni ddylid eithrio unrhyw blant o'r cyfleoedd i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg hyd yn oed os ydynt yn cyrraedd Cymru ran o'r ffordd drwy eu haddysg. Mae Cyngor Sir Powys yn darparu cyrsiau trochi rhithwir dwys i ddisgyblion sy'n symud i'r ardal neu ddisgyblion sy'n mynychu addysg cyfrwng Saesneg ar hyn o bryd a hoffai drosglwyddo i addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r cyrsiau yn ffordd effeithiol a llwyddiannus o drochi plant yn yr iaith Gymraeg a'u galluogi i drosglwyddo'n effeithiol i addysg Gymraeg. Mae plant yn caffael ieithoedd yn hawdd iawn gyda meddylfryd cadarnhaol ac addysgu effeithiol. Mae'r un mathau o gyrsiau'n gweithio ar draws y byd ac ar draws Cymru.

Beth am Saesneg fy mhlentyn?

Gan ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, daw plant yn ymwybodol o sut mae ieithoedd yn gweithio. Mae un iaith yn helpu'r llall, gan ei gwneud yn haws yn aml i'r plentyn ddysgu mwy o ieithoedd yn nes ymlaen. Mae plant sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn aml yn cael gwell canlyniadau mewn Saesneg na phlant sy'n astudio drwy gyfrwng y Saesneg.