Os nad ydych yn byw ger yr ysgol, mae'n bosibl y bydd gan eich plant hawl i gludiant am ddim. Mae'r meini prawf yn amrywio yn ôl y math o ysgol, felly darllenwch y wybodaeth yn ofalus i weld a ydyn nhw'n gymwys ai peidio.
I fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth ysgol gynradd, rhaid i'ch plentyn fyw 2 filltir neu fwy o'r ysgol ddalgylch agosaf, wedi'i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf. Fel arfer, mae'r cludiant yn cael ei gynnig dim ond i'r ysgol sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal maen nhw'n byw ynddi.
Nid yw cludiant cyswllt yn cael ei gynnig ond ar gyfer disgyblion ysgol gynradd sy'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim ac sy'n byw o leiaf filltir o un o'r prif lwybrau cludiant ysgol.
Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ar yr un pryd â'r Ffurflen Derbyn Disgybl i'r Ysgol Gynradd.
Cludiant Ysgol Uwchradd (hyd at Flwyddyn 11)
I fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth ysgol gynradd, rhaid i'ch plentyn fyw 3 filltir neu fwy o'r ysgol ddalgylch agosaf, wedi'i fesur yn ôl y pellter cerdded byrraf. Fel arfer, mae'r cludiant yn cael ei gynnig dim ond i'r ysgol sydd fel arfer yn derbyn disgyblion o'r ardal maen nhw'n byw ynddi.
Nid yw cludiant cyswllt yn cael ei gynnig ond ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd sy'n gymwys ar gyfer cludiant am ddim ac sy'n byw o leiaf 2 filltir o un o'r prif lwybrau cludiant ysgol.
Dylech ddychwelyd eich ffurflen gais ar yr un pryd â'r Ffurflen Derbyn Disgybl i'r Ysgol Uwchradd.
Amserlen bysiau
I gael gwybod pa lwybr bysiau neu fws y bydd eich plentyn yn ei gymryd, gweler ein tudalennau Amserlenni Bysiau Ysgol a Choleg.
Pan fydd disgybl yn gorffen Blwyddyn 11, bydd eu henwau'n cael eu tynnu oddi ar y rhestrau ar gyfer cludiant ysgol, ac os oes angen cludiant ysgol arnynt, mae'n rhaid iddynt wneud cais bob blwyddyn academaidd. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael ffurflen i'w llenwi. Os peidiwch â defnyddio'r cludiant ysgol, dylech ddweud wrth y Tîm Derbyniadau a Chludiant ar unwaith.
Gall myfyrwyr sy'n astudio mewn ail ysgol/coleg dan drefniadau cwricwlwm ar y cyd hefyd gael cludiant. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar wahân ar gyfer pob ysgol/coleg y byddwch yn astudio ynddi/ynddo.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
I ddarpariaethau y tu allan i Bowys
Darperir trafnidiaeth ar gyfer disgyblion sy'n mynychu ysgolion arbennig y tu allan i'r sir. Darperir trafnidiaeth i ddisgyblion preswyl mewn ysgolion yn y siroedd cyfagos ar fore Llun a phrynhawn dydd Gwener. Mae gan ddisgyblion mewn ysgolion arbennig mewn siroedd pell drafnidiaeth a ddarperir rhwng y cartref a'r ysgol ar ddechrau a diwedd tymor ac ar gyfer gwyliau hanner tymor.
Disgyblion ar Gynllun Datblygu Unigol a Gynhelir gan Awdurdodau Lleol mewn ysgolion prif ffrwd
Nid yw Cynllun Datblygu Unigol a gynhelir gan Awdurdod Lleol yn rhoi hawl i ddisgybl gael cludiant i'r ysgol oni bai ei fod yn mynd i ganolfan arbenigol a gynhelir gan yr ysgol ac yn byw ymhellach na'r pellter lleiaf o'r ganolfan. Fel arall, rhaid i'r disgybl fodloni'r un meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol â disgyblion nad oes ganddynt ddatganiadau.
Cod Diogelwch
Rhaid i bob disgybl sy'n defnyddio cludiant ysgol ufuddhau i'r rheolau diogelwch. Mae rhestr o'r rhain ar y ffurflen gais, a bydd copi o'r cod diogelwch yn cael ei anfon atoch gyda'ch tocyn teithio.
Yn nhywydd garw'r gaeaf ac mewn argyfwng, mae'n bosibl y bydd rhaid canslo cludiant ysgol a/neu fe allai ysgolion gau'n gynnar. Dylech fod yn ymwybodol o hyn, ac oes penderfynwch fynd â'ch plant i'r ysgol mewn tywydd garw, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi fynd â nhw adref.
Mae'r polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol sydd ynghlwm wedi'i gymeradwyo i'w weithredu gan ddechrau yn y flwyddyn academaidd Medi 2025. Ar ôl ei weithredu, bydd yn disodli'r polisi cyfredol. O ganlyniad, ni fydd y polisi cyfredol yn cael ei gyhoeddi mwyach, a bydd unrhyw ddysgwyr newydd o 2025 ymlaen yn ddarostyngedig i'r polisi newydd. Bydd dysgwyr presennol sy'n derbyn cludiant ysgol yn parhau i wneud hynny o dan drefniadau'r polisi blaenorol.