Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cronfa Adfywio Cymunedol y DU - Prosiectau sydd wedi'u cymeradwyo

Cyllid gan Lywodraeth y DU i helpu ardaloedd lleol baratoi at lansio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2022.

UK Government Logo
Rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22 yw Cronfa Adfywio Cymunedol y DU.  Y nod yw helpu pobl a chymunedau sydd â'r angen fwyaf ar draws y DU i arwain rhaglenni a dulliau newydd o weithio, a pharatoi at Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mae'n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lle, busnesau lleol a helpu pobl gael gwaith.

Am fwy o wybodaeth, ewch i:  UK Community Renewal Fund Prospectus (gov.uk)

Prosiectau Cymeradwy

Ar 3 Tachwedd 2021 clywodd chwech o brosiectau arloesol ym Mhowys iddynt fod yn llwyddiannus, wedi i Gyngor Sir Powys gyflwyno ceisiadau ar eu rhan.  Cyfanswm y cyllid i'r holl brosiectau yw £2,626,580 a bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn 30 Mehefin 2022.

Dyma fanylion y 6 phrosiect llwyddiannus:

 

Calon Werdd Cymru / Canolbarth Cymru Di-garbon - Canolfan y Dechnoleg Amgen - £513,688

Bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen a phartneriaid yn darparu pedwar astudiaeth dichonoldeb, profi ymagweddau hyfforddi ôl-osod arloesol a model Cwmni Gwasanaethau Ynni, â'r diben o arddangos yn gadarn y cyfleoedd buddsoddi i gyfrannu at dwf economaidd a dyfodol carbon sero net yn y DU.

Cyswllt: Nick Ashbee - nick.ashbee@cat.org.uk

 

Bydd Wyrdd Bydd Lân -Cyngor Sir Powys - £400,000

Bydd y peilot hwn yn profi dichonoldeb cyflwyno ysgubwyr ffordd electronig ledled y sir fel rhan o strategaeth ehangach i leihau allyriadau carbon. Bydd y prosiect hwn yn gwella amodau amgylcheddol drwy leihau llygredd aer a sŵn ac felly, gwella ansawdd y lle ar gyfer cymunedau, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Cyswllt: Lyn Parry - lyn.parry@powys.gov.uk

 

Menter Ardaloedd Powys -Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys - £419,835

Yn ystod pandemig Coronafeirws, sefydlodd CMCP 13 o rwydweithiau 'ardal' ledled Powys fel ffordd i sefydliadau'r 3ydd sector ymgysylltu ag anghenion ar unwaith a dyheadau ôl-bandemig trefi marchnad y sir,  a phreswylwyr cefn gwlad sy'n ddibynnol ar y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar waith hyd yma i ddatblygu'r rhwydweithiau fel fforymau sy'n adeiladu capasiti preswylwyr i gynllunio, datblygu a chyflenwi gweithgareddau sy'n hybu bywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd pob ardal. Yn ychwanegol at hwyluso trafodaeth am ddatblygiad blaenoriaethau, bydd y prosiect yn darparu arian i bob ardal i symud gweithgareddau yn eu blaen, a fydd yn gallu llywio creu mentrau'r dyfodol neu weithgareddau peilot sy'n gwella cydnerthedd ym mhob ardal.

Cyswllt: Nick Venti - nick.venti@pavo.org.uk

 

Dichonoldeb Adfer Camlas Maldwyn -Glandŵr Cymru - £330,065

Mae'r prosiect yn cynnwys astudiaeth achos, asesiadau paratoawl, archwiliadau a dyluniadau, gyda ffocws ar (adfer) dyfrffordd at ddibenion economaidd a chymdeithasol. Mae gwaith seilwaith yn rhan o'r gweithgaredd, sy'n ofynnol er mwyn agor Camlas Maldwyn ar gyfer mordwyo; rhan 4.4 milltir o'r ffin hyd at Lanymynech i Arddlin a chysylltu'r rhan 12 milltir sydd eisoes wedi ei hadfer y naill ochr a'r llall o'r Trallwng. Ymhlith buddiolwyr arfaethedig y Gamlas pan fydd wedi ei hailagor yn llwyr mae: 

  • Cymunedau lleol: ymwybyddiaeth o le
  • Cymunedau lleol: gwell ased hamdden ar gyfer rhagor o weithgaredd ar y dŵr 
  • Busnesau twristiaeth cyfredol ar hyd Coridor Camlas Llanymynech i fasnachu
  • Busnesau cyfredol yn elwa'n sylweddol o ran incwm o dwristiaeth (e.e. siopau pentref)
  • Busnesau twristiaeth newydd - e.e. llogi cwch/ gweithgareddau cwch (e.e. padlfyrddio a chaiacio).


Nod y prosiect yw darparu budd hir dymor i'r Economi Cymunedol a Thwristiaeth yn Sir Powys. Bydd yr adroddiadau cyflawn yn llywio ceisiadau'r dyfodol am arian cyfalaf ac yn darparu atyniad twristiaeth cynaliadwy i Bowys.

Cyswllt: Clare Parsons - clare.parsons@canalrivertrust.org.uk

 

Menter Sgiliau Cymunedol Powys -Cyngor Sir Powys - £749,866

Bydd CSP yn arwain ymagwedd gydweithredol a chydlynol at gyflenwi sgiliau ledled y sir, gan weithio â'r Sector Gwirfoddol, Diwydiant a phartneriaid Addysg Bellach. Drwy gynlluniau hyfforddi a pheilot, byddwn yn gwella sgiliau, darparu rhwydwaith sgiliau effeithiol a dinasyddion a sefydliadau ym Mhowys sy'n ddiogel rhag dyfodol digidol ym Mhowys.

Mae'r fenter o fewn rhaglen raddfa eang uwch-sgilio digidol sy'n cefnogi staff a dinasyddion i deimlo'n hyderus mewn amgylchedd digidol ac adeiladu cydnerthedd ledled Powys. Caiff hyn ei gyflenwi mewn partneriaeth â Choleg y Mynydd Du, Grŵp Coleg Castell Nedd Port Talbot, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.

Cyswllt: Sarah Quibell - sarah.quibell@powys.gov.uk

 

Menter Powys -Busnes Mewn Ffocws - £213,126

Mae Ffocws Menter Powys yn cynnig llwybr entrepreneuriaeth cyn-dechrau ar gyfer 100 o unigolion. Ymhlith y gweithgaredd mae:

  • Cefnogaeth deilwredig, holistaidd  
  • Gweminarau grwpiau bach /121s
  • Datblygu sgiliau / hyder entrepreneuraidd   

Cynyddu cynlluniau busnes a chefnogi cydnerthedd ar gyfer 50 o fusnesau bach sy'n bodoli:

  • Cynnal cynhadledd fideo 121s i roi cefnogaeth gyda chyllid, cyfryngau cymdeithasol, allgludiad, arallgyfeirio 
  • Cysylltu â rhwydweithiau rhithiol / gweminarau ymgynghorol  
  • Bwrsari ar gyfer camau cynnar busnesau 

Cyswllt: Alison Hitchin - AlisonH@BusinessinFocus.co.uk 

 

Yn ogystal â'r chwe phrosiect a restrir uchod, mae Cyngor Sir Powys, fel rhan o gais ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion ( y prif bartner) wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect canlynol:

Cyfres Her Launchpad y Canolbarth - ArloesiAber - £560,187

Rhaglen newydd a fydd yn datblygu atebion newydd i faterion yn ymwneud â'r sector cyhoeddus a chymdeithasol trwy ymchwil ac arloesi tra'n cynnig cyfleoedd marchnad newydd i fusnesau a phobl â sgiliau isel yng Nghanolbarth Cymru.  Bydd y rhaglen yn galluogi busnesau i ddadansoddi a gwerthuso potensial cysyniadau a syniadau a fydd yn y pen draw'n cael eu defnyddio yn y sector cyhoeddus trwy gydweithio â'r byd academaidd ac arweinwyr rhanbarthol i annog llwyddiant a thwf.

Cyswllt: innovate@aber.ac.uk

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar y Gronfa Adfywio Cymunedol ym Mhowys, e-bostiwch: CRF@powys.gov.uk.