Cronfa Adfywio Cymunedol y DU - Prosiectau sydd wedi'u cymeradwyo
Cyllid gan Lywodraeth y DU i helpu ardaloedd lleol baratoi at lansio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn 2022.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: UK Community Renewal Fund Prospectus (gov.uk)
Prosiectau Cymeradwy
Ar 3 Tachwedd 2021 clywodd chwech o brosiectau arloesol ym Mhowys iddynt fod yn llwyddiannus, wedi i Gyngor Sir Powys gyflwyno ceisiadau ar eu rhan. Cyfanswm y cyllid i'r holl brosiectau yw £2,626,580 a bydd angen cwblhau'r prosiectau erbyn 30 Mehefin 2022.
Dyma fanylion y 6 phrosiect llwyddiannus:
Calon Werdd Cymru / Canolbarth Cymru Di-garbon - Canolfan y Dechnoleg Amgen - £513,688
Bydd Canolfan y Dechnoleg Amgen a phartneriaid yn darparu pedwar astudiaeth dichonoldeb, profi ymagweddau hyfforddi ôl-osod arloesol a model Cwmni Gwasanaethau Ynni, â'r diben o arddangos yn gadarn y cyfleoedd buddsoddi i gyfrannu at dwf economaidd a dyfodol carbon sero net yn y DU.
Cyswllt: Nick Ashbee - nick.ashbee@cat.org.uk
Bydd Wyrdd Bydd Lân -Cyngor Sir Powys - £400,000
Bydd y peilot hwn yn profi dichonoldeb cyflwyno ysgubwyr ffordd electronig ledled y sir fel rhan o strategaeth ehangach i leihau allyriadau carbon. Bydd y prosiect hwn yn gwella amodau amgylcheddol drwy leihau llygredd aer a sŵn ac felly, gwella ansawdd y lle ar gyfer cymunedau, busnesau ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Cyswllt: Lyn Parry - lyn.parry@powys.gov.uk
Menter Ardaloedd Powys -Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys - £419,835
Yn ystod pandemig Coronafeirws, sefydlodd CMCP 13 o rwydweithiau 'ardal' ledled Powys fel ffordd i sefydliadau'r 3ydd sector ymgysylltu ag anghenion ar unwaith a dyheadau ôl-bandemig trefi marchnad y sir, a phreswylwyr cefn gwlad sy'n ddibynnol ar y gwasanaethau maen nhw'n eu darparu. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar waith hyd yma i ddatblygu'r rhwydweithiau fel fforymau sy'n adeiladu capasiti preswylwyr i gynllunio, datblygu a chyflenwi gweithgareddau sy'n hybu bywiogrwydd cymdeithasol ac economaidd pob ardal. Yn ychwanegol at hwyluso trafodaeth am ddatblygiad blaenoriaethau, bydd y prosiect yn darparu arian i bob ardal i symud gweithgareddau yn eu blaen, a fydd yn gallu llywio creu mentrau'r dyfodol neu weithgareddau peilot sy'n gwella cydnerthedd ym mhob ardal.
Cyswllt: Nick Venti - nick.venti@pavo.org.uk
Dichonoldeb Adfer Camlas Maldwyn -Glandŵr Cymru - £330,065
Mae'r prosiect yn cynnwys astudiaeth achos, asesiadau paratoawl, archwiliadau a dyluniadau, gyda ffocws ar (adfer) dyfrffordd at ddibenion economaidd a chymdeithasol. Mae gwaith seilwaith yn rhan o'r gweithgaredd, sy'n ofynnol er mwyn agor Camlas Maldwyn ar gyfer mordwyo; rhan 4.4 milltir o'r ffin hyd at Lanymynech i Arddlin a chysylltu'r rhan 12 milltir sydd eisoes wedi ei hadfer y naill ochr a'r llall o'r Trallwng. Ymhlith buddiolwyr arfaethedig y Gamlas pan fydd wedi ei hailagor yn llwyr mae:
- Cymunedau lleol: ymwybyddiaeth o le
- Cymunedau lleol: gwell ased hamdden ar gyfer rhagor o weithgaredd ar y dŵr
- Busnesau twristiaeth cyfredol ar hyd Coridor Camlas Llanymynech i fasnachu
- Busnesau cyfredol yn elwa'n sylweddol o ran incwm o dwristiaeth (e.e. siopau pentref)
- Busnesau twristiaeth newydd - e.e. llogi cwch/ gweithgareddau cwch (e.e. padlfyrddio a chaiacio).
Nod y prosiect yw darparu budd hir dymor i'r Economi Cymunedol a Thwristiaeth yn Sir Powys. Bydd yr adroddiadau cyflawn yn llywio ceisiadau'r dyfodol am arian cyfalaf ac yn darparu atyniad twristiaeth cynaliadwy i Bowys.
Cyswllt: Clare Parsons - clare.parsons@canalrivertrust.org.uk
Menter Sgiliau Cymunedol Powys -Cyngor Sir Powys - £749,866
Bydd CSP yn arwain ymagwedd gydweithredol a chydlynol at gyflenwi sgiliau ledled y sir, gan weithio â'r Sector Gwirfoddol, Diwydiant a phartneriaid Addysg Bellach. Drwy gynlluniau hyfforddi a pheilot, byddwn yn gwella sgiliau, darparu rhwydwaith sgiliau effeithiol a dinasyddion a sefydliadau ym Mhowys sy'n ddiogel rhag dyfodol digidol ym Mhowys.
Mae'r fenter o fewn rhaglen raddfa eang uwch-sgilio digidol sy'n cefnogi staff a dinasyddion i deimlo'n hyderus mewn amgylchedd digidol ac adeiladu cydnerthedd ledled Powys. Caiff hyn ei gyflenwi mewn partneriaeth â Choleg y Mynydd Du, Grŵp Coleg Castell Nedd Port Talbot, Grŵp Gweithgynhyrchu'r Canolbarth a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys.
Cyswllt: Sarah Quibell - sarah.quibell@powys.gov.uk
Menter Powys -Busnes Mewn Ffocws - £213,126
Mae Ffocws Menter Powys yn cynnig llwybr entrepreneuriaeth cyn-dechrau ar gyfer 100 o unigolion. Ymhlith y gweithgaredd mae:
- Cefnogaeth deilwredig, holistaidd
- Gweminarau grwpiau bach /121s
- Datblygu sgiliau / hyder entrepreneuraidd
Cynyddu cynlluniau busnes a chefnogi cydnerthedd ar gyfer 50 o fusnesau bach sy'n bodoli:
- Cynnal cynhadledd fideo 121s i roi cefnogaeth gyda chyllid, cyfryngau cymdeithasol, allgludiad, arallgyfeirio
- Cysylltu â rhwydweithiau rhithiol / gweminarau ymgynghorol
- Bwrsari ar gyfer camau cynnar busnesau
Cyswllt: Alison Hitchin - AlisonH@BusinessinFocus.co.uk
Yn ogystal â'r chwe phrosiect a restrir uchod, mae Cyngor Sir Powys, fel rhan o gais ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion ( y prif bartner) wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y prosiect canlynol:
Cyfres Her Launchpad y Canolbarth - ArloesiAber - £560,187
Rhaglen newydd a fydd yn datblygu atebion newydd i faterion yn ymwneud â'r sector cyhoeddus a chymdeithasol trwy ymchwil ac arloesi tra'n cynnig cyfleoedd marchnad newydd i fusnesau a phobl â sgiliau isel yng Nghanolbarth Cymru. Bydd y rhaglen yn galluogi busnesau i ddadansoddi a gwerthuso potensial cysyniadau a syniadau a fydd yn y pen draw'n cael eu defnyddio yn y sector cyhoeddus trwy gydweithio â'r byd academaidd ac arweinwyr rhanbarthol i annog llwyddiant a thwf.
Cyswllt: innovate@aber.ac.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar y Gronfa Adfywio Cymunedol ym Mhowys, e-bostiwch: CRF@powys.gov.uk.