Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cefnogaeth i Rieni

Mae cydweithwyr o Gyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cydweithredu I ddarparu amrediad o gefnogaeth i rieni. Ymunwch â ni ar unrhyw adeg o'ch siwrnai rhianta.

Cwrs Cyn-Geni Solihull

Mae Cwrs Cyn-Geni Solihull yn rhoi gwybodaeth ymarferol i rieni ynghylch beichiogrwydd a genedigaeth, ac ar yr un pryd yn eu cyflwyno i'w baban.

O ddarganfod mwy, cysylltwch â'ch bydwraig.

Y Blynyddoedd Rhyfeddol

Rydym yn gobeithio bod pob rhiant yn mwynhau 'Blynyddoedd Rhyfeddol' eu plant, ond bod yn rhiant yw'r gwaith caletaf, yn ddi-os. O gofio hyn, mae yna gyfleoedd ar draws Powys i rieni ymuno yn y grwpiau Blynyddoedd Rhyfeddol canlynol:

Eich Baban Rhyfeddol i rieni plant 0-6 mis oed

Eich Plentyn Bach Rhyfeddol i rieni plant 1-3 mlwydd oed

Eich Plentyn Rhyfeddol i rieni plant 3-8 mlwydd oed

ASD Rhyfeddol i rieni plant â diagnosis o awtistiaeth neu sydd wrthi'n cael eu hasesu gan y Tîm NDS.

I ddarganfod mwy, ewch i Grwpiau Rhianta (Blynyddoedd Rhyfeddol) neu anfonwch e-bost at  parentinggroups@powys.gov.uk

Cwrs paratoi i fynd i'r ysgol

I rieni plant sydd i ddechrau'r ysgol ym mis Medi.  Helpu i baratoi eich plentyn i fynd i'r ysgol.

Cwrs 4 wythnos i rieni a gofalwyr sydd am helpu plant trwy chwarae, gyda sgiliau cymdeithasol ac academaidd a darllen â gofal.  Bydd pob sesiwn yn para tua dwy awr.

I wybod mwy, e-bostiwch:   rhian.carter@powys.gov.uk or flyingstart@powys.gov.uk

Datblygiad Lleferydd ac Iaith

Mae Beth am Siarad Gyda'ch Baban yn gwrs 8-wythnos ymarferol a llawn hwyl i rieni/gofalwyr a babanod o 3 i 12 mis. Mae pob sesiwn oddeutu 1 awr o hyd.

Beth am Siarad Gyda'ch Plentyn Bach - Cwrs ymarferol 6-wythnos i rieni/gofalwyr a phlant bach 1-2 oed. Mae pob sesiwn oddeutu 1 awr o hyd.

Y Nod yw:

  • Mwynhau cyfathrebu gyda'ch baban/eich plentyn bach trwy weithgareddau hwyliog a gwahanol
  • Helpwch eich baban/plentyn bach i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cynnar a fydd yn darparu dechrau da tuag at ddysgu sut i siarad
  • Rhoi llawer o syniadau i chi roi cynnig arnynt gartref
  • Cyfarfod â rhieni a phlant eraill
  • Eich galluogi i ofyn cwestiynau am gyfathrebu cynnar

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, anfonwch e-bost at Claire.Evans30@wales.nhs.uk

Rhieni Unigolion yn eu Harddegau

Take 3 - sesiwn grŵp 10-wythnos o hyd yn edrych ar sgiliau a strategaethau sy'n angenrheidiol wrth gynorthwyo pobl ifanc yn eu harddegau trwy'r cyfnod yma yn eu hoes. Trafod y syniadau, y pryderon a'r problemau sydd gan bob rhiant i blant yn eu harddegau.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, anfonwch e-bost at aimee.hanson@powys.gov.uk

Teen Life - Ar gyfer rhieni pobl ifanc 10-16 oed sydd â diagnosis o Gyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC)

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Powys.ias@wales.nhs.uk  neu 01874 712607

 

Cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i gael gwybodaeth, grwpiau eraill a chymorth

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma