Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Amodau a thelerau oddefeb parcio

Bydd methu cydymffurfio â'r amodau a'r telerau hyn yn golygu tynnu'r caniatâd hwn yn ôl ac fe allai arwain at ddirwy.

Mae caniatâd arbennig yn cael ei roi er defnydd yr ymgeisydd mewn perthynas â'r lleoliad, y cerbyd(au) a'r cyfnodau a'r diben dan sylw.  Rhaid dangos y dystysgrif caniatâd yn glir ar ffenestr flaen y cerbyd a thrwy gydol y cyfnod dan sylw.  Rhaid i'r ymgeisydd/gyrrwr ddangos yn glir ei rif ffôn a chyfeiriad y bydd modd cysylltu ag ef/hi ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod dan sylw.

Nid yw'r caniatâd hwn yn sicrhau y bydd lle penodol neu unrhyw le ar gael i barcio yn y lle dan sylw ac nid yw'n eithrio'r cerbyd rhag cyfyngiadau parcio mewn mannau eraill.

Rhaid symud y cerbyd os bydd swyddog yr heddlu neu Swyddog Gorfodi Sifil neu unrhyw swyddog sydd wedi'i awdurdodi gan y Cyngor yn gofyn i chi wneud hynny.

Nid yw'r dystysgrif caniatâd yn rhoi hawl i chi barcio'n gyffredinol yn y lle dan sylw.  Rhaid symud y cerbyd ar unwaith i rywle arall a chydymffurfio ag unrhyw reolau traffig pan fyddwch wedi cyflawni'r hyn oedd yn destun y cais.  Rhaid i chi beidio rhwystro cerddwyr nac unrhyw un arall sy'n defnyddio'r ffordd wrth barcio'r cerbyd, ac ni ddylech rwystro llinellau gweld wrth gyffyrdd, na rhwystro mynediad na llif traffig.

Ni ddylech adael unrhyw ddeunydd neu nwyddau ar y ffordd gerbydau na'r droedffordd heb ganiatâd yr Awdurdod Priffyrdd.  Ni ddylid trosglwyddo deunydd na nwyddau ar draws unrhyw ran o'r droedffordd na'r ffordd gerbydau mewn unrhyw ffordd a allai ymyrryd â diogelwch cerddwyr a/neu gerbydau eraill.

Mae'n bosibl y gallwn osod amodau arbennig ar ganiatâd, yn ogystal â'r rhai sydd wedi'u nodi yma.  Gallwn ganslo'r caniatâd hwn os na fyddwch yn cydymffurfio â'r rhain.  Gall y Cyngor ganslo tystysgrif caniatâd unrhyw adeg ac ar hynny, ni fydd yn ddilys.

Prisiau

Pris trwydded yw £25.00 y dydd, fesul cerbyd, gyda hyd at ddau gerbyd.