Iaith Gymraeg
Mae siaradwyr Cymraeg ym mhob rhan o Bowys, gydag 1 o bob 5 o drigolion y sir yn siarad Cymraeg.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac ystyried y Gymraeg bob amser wrth wneud ein penderfyniadau, er mwyn meithrin a datblygu'r iaith o fewn ein cymunedau, a chyfrannu tuag at nod o gyrraedd y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, yn unol ag amcan Llywodraeth Cymru.
Mae'r adrannau isod yn cynnig rhagor o wybodaeth am y dyletswyddau sydd ar y Cyngor, gwybodaeth am yr iaith Gymraeg ym Mhowys, a dolenni er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut ddefnyddio mwy ar y Gymraeg.