Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Taith at Ddwy Iaith: manteision dewis addysg Gymraeg

Ledled Cymru mae mwy a mwy o rieni yn dewis addysg Gymraeg i'w plant fel y gallant ddod yn ddwyieithog ac yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Does dim angen i rieni allu siarad Cymraeg er mwyn i'w plant fynychu addysg Gymraeg - mae plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg yn yr ysgol ac yn dod yn rhugl yn gyflym.

Gall dwyieithrwydd ddod â llawer o fanteision i'ch plentyn:

  • Gall dysgwyr sy'n deall mwy nag un iaith feddwl yn fwy creadigol ac yn fwy hyblyg ac maent yn tueddu i wneud yn well mewn profion deallusrwydd IQ
  • Mae gan ddwyieithrwydd effaith bositif ar yr ymennydd trwy ei gadw'n fywiog yn ddiweddarach yn ystod eu hoes
  • Gall bod yn ddwyieithog leihau'r risg o ddementia
  • Yng Nghymru, mae gallu siarad Cymraeg yn rhugl yn sgil ychwanegol gwerthfawr a fydd yn fanteisiol i'ch plentyn wrth chwilio am waith
  • Mae bod yn ddwyieithog yn rhoi mynediad i ddau ddiwylliant a dau fyd o brofiad
  • Mae pobl ddwyieithog yn ei chael hi'n haws dysgu trydedd iaith a dangos mwy o oddefgarwch tuag at ddiwylliannau eraill
  • Ledled Cymru mae plant dwyieithog yn tueddu i sicrhau gwell canlyniadau - gan gynnwys yn Saesneg

Gweld ein llyfryn Taith at Ddwy Iaith i ddarllen am fanteision dewis addysg Gymraeg. (PDF) [854KB]

Darllen ein llyfryn cymorth gyda gwaith cartref Cymraeg (PDF) [534KB] i weld sut allwch chi helpu eich plentyn gyda'u gwaith cartref Cymraeg.

Y daith ddwyieithog

Y daith o'r cyfnod cyn geni hyd at addysg uwchradd

Clywch gan ddysgwyr a rhieni

Tystebau ac astudiaethau achos gan ddysgwyr a rhieni

Atebion i'ch cwestiynau

Atebion i gwestiynau cyffredin am addysg Cyfrwng Cymraeg

Ffynonellau Gwybodaeth Defnyddiol i rieni

Rydym wedi casglu'r holl ffynonellau gwybodaeth defnyddiol i un man

Strategaethau Iaith Gymraeg Cyngor Sir Powys

Dysgwch am ein cynlluniau i wella addysg Gymraeg ym Mhowys