Toglo gwelededd dewislen symudol

Plant sy'n Colli Addysg (CME)

Yr hyn a olygwn gan blant sy'n colli addysg

Pob blwyddyn ym Mhowys, mae plant sydd naill ai ddim yn llwyddo i ddechrau mewn ysgol newydd neu ddarpariaeth addysgol briodol neu ar goll oddi ar gofrestrau ysgol yn unig a ddim yn llwyddo i ail-gofrestru mewn ysgol newydd pan fyddant yn symud i mewn, neu o amgylch, y sir.

Gall y plant hyn 'sydd ar goll' fod ymysg y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein hardal. Mae'n hanfodol fod yr holl wasanaethau yn cydweithio i ddynodi ac ailgysylltu'r plant hyn gyda darpariaeth addysgol briodol cyn gynted ag sy'n bosibl.

Mae plant sy'n parhau i fod wedi ymddieithrio o addysg mewn perygl o ddod i gysylltiad â graddau uwch o risg a allai gynnwys cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol, ymddieithrio cymdeithasol a/neu gamfanteisio rhywiol.

Ymgeisio am le Ysgol i Blentyn

Os ydych yn gwybod am blentyn sy'n colli addysg, anfonwch e-bost at: educationwelfare@powys.gov.uk.