Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol

Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)
Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn hyd at bum tymor o addysg blynyddoedd cynnar rhan amser cyn dechrau addysg orfodol. Cynigir hon mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cael eu hariannu, gan gynnwys Grwpiau Chwarae, Cylch meithrin, ysgolion a meithrinfeydd dydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r Awdurdod Lleol I sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad i Addysg Blynyddoedd Cynnar rhan amser am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Gall pob plentyn sy'n gymwys dderbyn o leiaf 10 awr yr wythnos o Addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i hariannu os byddan nhw'n defnyddio lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo a'i ariannu.
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB)
Rhwng 01/09/2022 a 31/08/2023
Bydd lleoedd ar gyfer y rownd derbyn hon yn agor ar 1 Mawrth 2025 ac yn cau ar 31 Mawrth 2025. Bydd lleoedd gyda'r darparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael eu dyrannu ar y diwrnod Cynnig Derbyn Cyn Ysgol, sef dydd Mawrth, 30 Medi 2025.
Os hoffech chi wneud cais am sesiynau Addysg Blynyddoedd Cynnar, fel rhan o'r cynnig addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i Ariannu, llenwch y ffurflen dderbyn trwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Wneud cais am le cyn-ysgol yma
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB) (Yn agor ffenestr newydd)
I gael rhagor o wybodaeth yngylch y Cynnig Gofal Plant, ewch i wefan Cynnig Gofal Plant Cymru
Sylwch: bydd unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2025 yn cael ei drin fel cais hwyr, ac ni chaiff ei brosesu nes y bydd pob un o'r rheiny a gyrhaeddodd mewn pryd yn cael eu dyrannu.
Gwybodaeth am sut i wneud cais am le cyn-ysgol yma
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2026-27 (PDF, 834 KB)
Rhwng 01/09/2023 a 31/08/2024
Bydd lleoedd ar gyfer y rownd derbyn hon yn agor ar 1 Mawrth 2025 ac yn cau ar 31 Mawrth 2025. Bydd lleoedd gyda'r darparwyr addysg Blynyddoedd Cynnar yn cael eu dyrannu ar y diwrnod Cynnig Derbyn Cyn Ysgol, sef dydd Mawrth, 30 Medi 2025.
Os hoffech chi wneud cais am sesiynau Addysg Blynyddoedd Cynnar, fel rhan o'r cynnig addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i Ariannu, llenwch y ffurflen dderbyn trwy ddefnyddio'r ddolen isod.
Wneud cais am le cyn-ysgol yma
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF, 2 MB) (Yn agor ffenestr newydd)
I gael rhagor o wybodaeth yngylch y Cynnig Gofal Plant, ewch i wefan Cynnig Gofal Plant Cymru
Sylwch: bydd unrhyw gais a dderbynnir ar ôl 31 Mawrth 2025 yn cael ei drin fel cais hwyr, ac ni chaiff ei brosesu nes y bydd pob un o'r rheiny a gyrhaeddodd mewn pryd yn cael eu dyrannu.
Os ydych am wneud cais i newid y sesiynau a ddyrannwyd i'ch plentyn mewn lleoliad cyn ysgol ym Mhowys, llenwch y ffurflen Ffurflen Ddiwygio Cyn Ysgol Blynyddoedd Cynnar.
Gweld rhestr o leoliadau cymeradwy yma Darparwyr Blynyddoedd Cynnar
Cais am le mewn Ysgol Gynradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwydrhwng 01/09/21 a 31/08/22 yn agor ar dydd Mercher, 1 Hydref 2025.
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch derbyn oedd dydd Iau 15 Ionawr 2026.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn Derbyn Medi 2026, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Un garfan sydd gan ysgolion cynradd Awdurdod Lleol Powys ymhob blwyddyn ysgol, sy'n cychwyn ar ddechrau tymor yr Hydref wedi i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 4 oed.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion cynradd yw dydd Iau 16 Ebrill 2026.
Nid yw bod â lle mewn dosbarth meithrin neu gyn-ysgol yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael lle yn y brif ysgol pan fydd yn cyrraedd ei 4 oed. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn y brif ysgol. Os nad ydych chi'n gwneud cais, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2026-27 (PDF, 834 KB)
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2026-27 Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2026-27
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am le mewn Ysgol Uwchradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/14 - 31/08/15 agor ar dydd Llun 1 Medi 2025.
Y dyddiad cau ar gyfer y cylch derbyn oedd dydd Gwener 31 Tachwedd 2025.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn 7 Medi 2025, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Uwchradd yw Dydd Llun 2 Mawrth 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2026-27 (PDF, 834 KB)
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2026-27 Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2026-27
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn
Nid ydych yn newid cartref: Os ydych am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol wahanol ar unrhyw adeg (ac eithrio ar gyfer symud tŷ), dylech drafod hyn gyda Phennaeth yr ysgol bresennol. Yna dylech fynd at Bennaeth yr ysgol rydych wedi'i dewis, a thrafod y posibilrwydd o dderbyn, gan egluro pam yr hoffech chi newid ysgolion.
Rydych yn newid cartref: Lle gwneir cais oherwydd eich bod wedi symud tŷ, gwnewch yn siŵr bod digon o rybudd i'r trosglwyddiad gael ei ystyried a'i drefnu. Ni all y Tîm Derbyniadau ystyried ceisiadau hyd nes derbyn cadarnhad o ddiwrnod symud.
Os cymeradwyir eich cais am drosglwyddo, bydd eich plentyn yn newid ysgol ar ddechrau tymor neu hanner tymor.
Gwnewch gais am drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn yma.
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn yma Application form for a school place_cym
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2025-26 Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2025-26
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2025-26 Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2025-26
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2026-27 (PDF, 2 MB)
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau ynghylch derbyniadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma