Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut y gymryd rhan (Y Drenewydd)

Gallwch lwytho copi o'r Gorchymyn drafft, y cynllun perthnasol a datganiad o resymau'r Cyngor dros gynnig gwneud y Gorchymyn, o'r safle hwn.

Gall UNRHYW UNIGOLYN wrthwynebu gwneud y Gorchymyn hwn drwy anfon rhybudd at y sawl y mae ei enw wedi lofnodi isod dim hwyrach na 27 Chwefror 2022, gan nodi sail y gwrthwynebiad.

Sylwch: Os ydych ym dymuno gwrthwynebu neu wneud neu gefnogi sylwadau, bydd tîm y proisect yn ystyried eich gohebiaeth ac mae'n bosibl y bydd angen i ni ymgynghori â phobl a sefydliadau y tu allan i'r Cyngor Sir. Fel rhan o'r brosed so ymgynghori ag eraill, mae'n bosib y byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth iddynt, gan gynnwys y wybodaeth y gwnaethoch chi ei rhoi i ni, a'ch data personol. Ni fyddwn yn datgelu eich manylion personol, fodd bynnag, oni bai fod angen gwneud hynny er mwyn ein galluogi i drin y materion rydych chi wedi dwyn ein sylw atyn nhw.

Rheolwr Systemau Traffig a Diogelwch
Adran Traffig
Neuadd y Sir
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG

Gallwch anfon gwrthwynebiad a sylwadau eraill trwy e-bost at traffig@powys.gov.uk gan gynnwys eich new, eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfeiriad post llawn, dim hwyrach na 27 Chwefror 2022. Defnyddiwch y geiriau "Stryd Fawr, Stryd y Bont Fer a Stryd Wesley, Y Drenewydd - sylwadau ar y cynnig TRO parhaol" yn llinell bwnc i'ch e-bost fel bod modd i ni weld yn gyflym mai sylwadau ydynt a anfonwyd ar gyfer y cynnig Gorchymyn Traffig yma.