Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion
Rydym yn cefnogi pobl i fyw'r bywyd gorau y gallant. Trwy ganolbwyntio ar hyr hyn sy'n wirioneddol bwysig, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag unigolyn i'w helpu i ddarganfod yr atebion gorau.
Mae gan yr adran Gofal Cymdeithasol Oedolion amrywiaeth o dimau arbenigol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor neu gymorth. Rydym yn gweithio mewn cydweithrediad ym maes Gofal Cymdeithasol ac Oedolion a Chomisiynu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, a'r sectorau preifat a gwirfoddol.
Os nad ydych chi'n siwr beth yw'r swydd orau i chi, gallwn gynnig rhagor o wybodaeth yn ein hadran ar rolau'r swyddi. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am fanteision gweithio gyda ni a'r buddion allai fod ar gael i chi.
Swyddi Gwag
Mae rhai o'n cyfleoedd presennol wedi'u nodi isod. Gallwch gael gwybodaeth am ein holl swyddi gwag ar ein gwefan recriwtio.

Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl (22 awr)

Uwch Ymarferydd Iechyd Meddwl

Gweithiwr Ailalluogi a Gofal
