Toglo gwelededd dewislen symudol

Dal i fod amser i gyflwyno cais ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

Image of an adult and two children playing with blocks

18 Mawrth 2022

Image of an adult supervising two children playing
Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud bod dal i fod amser i rieni neu ofalwyr i gyflwyno ceisiadau ar gyfer plant a fydd yn dechrau addysg cyn-ysgol yn 2023.

Rhaid i geisiadau ar gyfer derbyniadau Blynyddoedd Cynnar gael eu llenwi a'u cyflwyno erbyn dydd Iau, 31 Mawrth 2022.

Bydd y ceisiadau ar gyfer plant a anwyd rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020 ar gyfer lle mewn lleoliad y blynyddoedd cynnar yn 2023.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r cyngor i sicrhau y caiff pob plentyn ym Mhowys fynediad at addysg y blynyddoedd cynnar rhan amser am ddim, o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn deirblwydd.

Gall pob plentyn cymwys dderbyn uchafswm o ddeng awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol cymeradwy a ariennir.

Bydd plant sy'n gymwys ar gyfer addysg rhan amser am ddim, ond yn derbyn lleoedd a ariennir os ydynt yn mynychu lleoliad addysg cyn-ysgol cymeradwy a ariennir.

Dywedodd Lynette Lovell, Cyfarwyddwr Addysg y cyngor: "Dylai pob rhiant a gofalwr lenwi'r ffurflen gais cyn gynted ag y bo modd i sicrhau bod eu plentyn yn cael lle yn y lleoliad cyn-ysgol/blynyddoedd cynnar o'u dewis y flwyddyn nesaf.

"Os nad ydynt yn ei llenwi mewn pryd, efallai na chân nhw le mewn lleoliad o'u dewis."

Bydd angen i rieni / gofalwyr lenwi ffurflen gais ar-lein a gallwch ddod o hyd i'r ffurflen yma - Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael trafferth llenwi neu gyflwyno'r cais mae croeso i chi gysylltu â'r Tîm Derbyn ar 01597 826477 neu e-bostio preschooladmissions@powys.gov.uk