Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)

Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn hyd at bum tymor o addysg blynyddoedd cynnar rhan amser cyn dechrau addysg orfodol. Cynigir hon mewn amrywiaeth o leoliadau sy'n cael eu hariannu, gan gynnwys Grwpiau Chwarae, Cylch meithrin, ysgolion a meithrinfeydd dydd.


Mae athro cymwys/athrawes gymwys yn ymwneud yn uniongyrchol â phob lleoliad cymeradwy. Os na all y lleoliad a ddewiswch gynnig y nifer uchaf o oriau, sef 10 awr, o addysg blynyddoedd cynnar, gallwch ddewis defnyddio gweddill yr oriau gyda darparwr arall.

I ddod o hyd i'ch lleoliad cymeradwy agosaf, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Ieuenctid a Theuluoedd Powys.

Am wybodaeth ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru, ewch i dudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Cyngor Sir Powys yma.

Sylwch mai Cyngor Sir Ceredigion sy'n gweinyddu'r cynllun hwn yng Nghanolbarth Cymru ac nid Cyngor Sir Powys.  Ewch i dudalen Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fanylion cyswllt a sut i wneud cais.

Os ydych am wneud cais i newid y sesiynau a ddyrannwyd i'ch plentyn mewn lleoliad cyn ysgol ym Mhowys, llenwch y ffurflen Ffurflen Ddiwygio Cyn Ysgol Blynyddoedd Cynnar.  Nid ydym yn gallu prosesu ceisiadau hwyr na newidiadau i sesiynau presennol Blynyddoedd Cynnar a dderbyniwyd ar ôl 01/06/2024 tan ar ôl dyddiad cynnig y cylch derbyn presennol sef 30 Medi 2024.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu'r Awdurdod Lleol I sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad i Addysg Blynyddoedd Cynnar rhan amser am ddim o ddechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed. Gall pob plentyn sy'n gymwys dderbyn o leiaf 10 awr yr wythnos o Addysg Blynyddoedd Cynnar wedi'i hariannu os byddan nhw'n defnyddio lleoliad sydd wedi'i gymeradwyo a'i ariannu.

Bydd plant sy'n gymwys ar gyfer addysg rhan amser am ddim yn derbyn lle wedi'i ariannu dim ond os ân nhw i leoliad addysgol cyn-ysgol cymeradwy wedi ei ariannu.

Mae'r gwybodaeth isod yn dangos pryd bydd eich plentyn yn dod yn gymwys i dderbyn hyd at 5 tymor o ddarpariaeth ran-amser cyn ysgol wedi'i ariannu:

  • 1 Ebrill a 31 Awst - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Medi
  • 1 Medi a 31 Rhagfyr - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ionawr
  • 1 Ionawr a 31 Mawrth - Dechrau'r tymor ar neu ar ôl 1 Ebrill

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ynglŷn â darpariaeth 10 awr wedi'i hariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed