Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymwybyddiaeth o hunan-anafu

Sesiwn ymwybyddiaeth o hunan-anafu dan arweiniad defnyddiwr y gwasanaeth.

Hoffem eich gwahodd chi i sesiwn Ymwybyddiaeth o hunan-anafu dan arweiniad defnyddiwr y gwasanaeth sydd, yn y gorffennol, wedi cael ei gyflwyno i staff Iechyd Meddwl a staff Unedau Mân-anafiadau.  Mae'r sesiwn ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol, Gofal Maeth a staff Cysylltu Bywydau.  Diben y sesiwn yw ceisio deall pam fod pobl yn hunan-anafu a sut i drafod  hunan-anafu heb ragfarn na barn.

Mae'r sesiwn wedi'i ysgrifennu, ei ddatblygu a'i gyflwyno gan Sarah, Defnyddiwr Gwasanaeth ac yn gynrychiolydd Gofalwyr ar Fwrdd Partneriaeth a Datblygu Iechyd Meddwl Powys.

Bydd y sesiwn ar-lein dros Teams, ac yn cychwyn am 2pm gan orffen erbyn 4pm.

Dyddiadau:

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau