Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithdai gloywi theori gyrru i yrwyr hŷn

Image of a mature driver

13 Ebrill 2022

Image of a mature driver
Ydych chi dros 65 oed ac yn byw ym Mhowys?

Mae cyfle i yrwyr hŷn adolygu a gwella'u sgiliau gyrru trwy fanteisio ar gwrs theori gyrru ar-lein, am ddim, trefnu gan y cyngor sir.

Bydd Uned Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Powys yn cynnal gweithdai gloywi theori gyrru ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mercher 20 Ebrill 2022
Dydd Mercher 18 Mai 2022
Dydd Mercher 22 Mehefin 2022

Mae'r cwrs yn weithdy anffurfiol ar-lein dros ddwy awr i ddiweddaru eich gwybodaeth o'r ffyrdd mewn amgylchedd cyfnewidiol iawn, felly'n helpu i wella eich sgiliau gyrru a pharhau i yrru'n ddiogel.

Mae'r cwrs yn cynnwys 'y pump angheuol'; beth i'w wneud wrth ddod ar draws defnyddwyr sy'n agored i niwed ar y ffordd megis beicwyr modur, seiclwyr a cheffylau, gofynion o ran y golwg, cyfreithiau meddyginiaeth ac alcohol, beth i'w wneud mewn damwain a llawer mwy.

Byddwch hefyd yn cael gwybodaeth a manylion cyswllt un o'r asesiadau 'Drive-On' am ddim dros awr gyda Hyfforddwr Gyrru Uwch.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ar un o'r cyrsiau nesaf, cysylltwch â Miranda Capecchi, Swyddog Prosiect Diogelwch ar y Ffyrdd ar:

Ffôn: 01597 82 6924
E-bost: miranda.capecchi1@powys.gov.uk