Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cau gorsafoedd pleidleisio oherwydd etholiadau diwrthwynebiad

Image of a person walking into a polling station

29 Ebrill 2022

Image of a person walking into a polling station
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi na fydd pymtheg gorsaf bleidleisio ar agor wythnos nesaf oherwydd etholiadau diwrthwynebiad ar draws Powys.

Er bod y cyngor yn annog etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad sy'n cael ei gynnal ddydd Iau 5 Mai ac i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio, ni fydd 15 gorsaf bleidleisio yn y sir yn agor oherwydd etholiadau diwrthwynebiad.

Os mai un o'r canlynol yw eich gorsaf bleidleisio chi, yna mae eich Cynghorwr Sir a Chymuned wedi'i ethol yn ddiwrthwynebiad ac ni fyddwch yn pleidleisio ddydd Iau 5 Mai.

Rhestr o'r rhai sydd ar gau:

Sir Frycheiniog

1.    Clwb Bowlio'r Gelli Gandryl

Sir Drefaldwyn

2.    Ystafell Eglwys Cemaes

3.    Neuadd Gymunedol Dolfor

4.    Canolfan Gymunedol Glantwymyn

5.    Neuadd Bentref Llandinam

6.    Neuadd Goffa Llanfechain

7.    Neuadd Goffa Llangedwyn

8.    Neuadd Gyhoeddus Llanrhaeadr-Ym-Mochnant

9.    Neuadd Gymunedol Llansantffraid

10. Neuadd Goffa Llansilin

11. Canolfan Gymunedol Llidiartywaen

12. Machynlleth Y Plas - Gorsaf Rhif 2

13. Hen Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Mochdre

14. Eglwys Fethodistaidd Y Drenewydd, Lôn Gefn

15. Neuadd y Dref, Y Trallwng