Cau gorsafoedd pleidleisio oherwydd etholiadau diwrthwynebiad
29 Ebrill 2022
Er bod y cyngor yn annog etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad sy'n cael ei gynnal ddydd Iau 5 Mai ac i ddefnyddio eu hawl i bleidleisio, ni fydd 15 gorsaf bleidleisio yn y sir yn agor oherwydd etholiadau diwrthwynebiad.
Os mai un o'r canlynol yw eich gorsaf bleidleisio chi, yna mae eich Cynghorwr Sir a Chymuned wedi'i ethol yn ddiwrthwynebiad ac ni fyddwch yn pleidleisio ddydd Iau 5 Mai.
Rhestr o'r rhai sydd ar gau:
Sir Frycheiniog
1. Clwb Bowlio'r Gelli Gandryl
Sir Drefaldwyn
2. Ystafell Eglwys Cemaes
3. Neuadd Gymunedol Dolfor
4. Canolfan Gymunedol Glantwymyn
5. Neuadd Bentref Llandinam
6. Neuadd Goffa Llanfechain
7. Neuadd Goffa Llangedwyn
8. Neuadd Gyhoeddus Llanrhaeadr-Ym-Mochnant
9. Neuadd Gymunedol Llansantffraid
10. Neuadd Goffa Llansilin
11. Canolfan Gymunedol Llidiartywaen
12. Machynlleth Y Plas - Gorsaf Rhif 2
13. Hen Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Mochdre
14. Eglwys Fethodistaidd Y Drenewydd, Lôn Gefn
15. Neuadd y Dref, Y Trallwng