Gwaith yn mynd ymlaen yn dda ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Y Trallwng
4 Mai 2022
Er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn, bydd maes parcio Stryd yr Eglwys ar gau am ddeg diwrnod o 10 Mai. Bydd y maes parcio llai wrth ochr y ganolfan groeso a'r toiledau yn dal i fod ar agor, ynghyd â maes parcio Stryd Aberriw.
Pan fydd yn barod, bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cynnwys gorsaf bws, maes parcio, lle tacsis a lloches mawr dan do i feiciau. Bydd yn agos i ganol y dref ac yn hwylus i gyrraedd y siopau, y ganolfan groeso, toiledau a'r orsaf drenau.
"Datblygwyd lleoliad a chynllun y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd trwy ymgynghori'n agos â phrif randdeiliaid y dref," esboniodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd.
"Gan fod mor agos i ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth eraill, mae'r datblygiad newydd mewn lle delfrydol i annog mwy o ymwelwyr i'r Trallwng ac fe'i adeiladwyd i wella'r amgylchedd a bioamrywiaeth."
Y gobaith yw y bydd y Gyfnewidfa newydd yn barod i'w defnyddio erbyn diwedd mis Mai.