Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwaith yn mynd ymlaen yn dda ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Y Trallwng

Image of a car parking bay

4 Mai 2022

Image of a car parking bay
Mae'r gwaith adeiladu ar gyfnewidfa drafnidiaeth newydd Y Trallwng yn mynd ymlaen yn dda, gyda'r gwaith o osod wyneb newydd ar faes parcio Stryd yr Eglwys i ddechrau dydd Mawrth nesaf, 10 Mai.

Er mwyn gallu gwneud y gwaith hwn, bydd maes parcio Stryd yr Eglwys ar gau am ddeg diwrnod o 10 Mai.  Bydd y maes parcio llai wrth ochr y ganolfan groeso a'r toiledau yn dal i fod ar agor, ynghyd â maes parcio Stryd Aberriw.

Pan fydd yn barod, bydd y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cynnwys gorsaf bws, maes parcio, lle tacsis a lloches mawr dan do i feiciau.  Bydd yn agos i ganol y dref ac yn hwylus i gyrraedd y siopau, y ganolfan groeso, toiledau a'r orsaf drenau.

"Datblygwyd lleoliad a chynllun y gyfnewidfa drafnidiaeth newydd trwy ymgynghori'n agos â phrif randdeiliaid y dref," esboniodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd.

"Gan fod mor agos i ganol y dref a chysylltiadau trafnidiaeth eraill, mae'r datblygiad newydd mewn lle delfrydol i annog mwy o ymwelwyr i'r Trallwng ac fe'i adeiladwyd i wella'r amgylchedd a bioamrywiaeth."

Y gobaith yw y bydd y Gyfnewidfa newydd yn barod i'w defnyddio erbyn diwedd mis Mai.