Annog siopau i dynnu cynnyrch Kinder oddi ar y silffoedd oherwydd achos o salmonella
5 Mai 2022
Fis diwethaf, fe wnaeth Ferrero, y cwmni cynhyrchu siocled, alw nifer o gynnyrch Kinder yn ôl oherwydd achos o salmonella.
Credir fod nifer o blant wedi bod yn eitha sâl ar ôl bwyta'r cynnyrch, gyda nifer wedi'u cymryd i'r ysbyty.
Mae Tîm Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Powys yn annog siopau ar draws y sir i sicrhau eu bod yn tynnu'r cynnyrch dan sylw oddi ar eu silffoedd, sef:
Kinder Surprise
Maint y pecyn: 20g
Dyddiad ar ei orau cyn: Pob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023
Kinder Surprise
Maint y pecyn: Pecyn 20g x 3
Dyddiad ar ei orau cyn: Pob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023
Kinder Surprise
Maint y pecyn 100g
Best before: All dates up to and including 21 August 2022
Kinder Mini eggs
Maint y pecyn: 75g
Dyddiad ar ei orau cyn: Pob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
Kinder Egg Hunt Kit
Maint y pecyn: 150g
Dyddiad ar ei orau cyn: Pob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 21 Awst 2022
Kinder Schokobons
Maint y pecyn: 70g, 200g a 320g
Dyddiad ar ei orau cyn: Pob dyddiad hyd at ac yn cynnwys 04 Ionawr 2023
Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un yn y sir all fod wedi prynu'r cynnyrch hyn i beidio eu bwyta oherwydd y perygl i iechyd.
Dywedodd Gwilym Davies, Pennaeth Eiddo, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: "Mae'r posibilrwydd o salmonella yn y cynnyrch hyn yn peri risg i iechyd pobl o'u bwyta.
"Rydym yn gofyn i siopau sicrhau eu bod yn tynnu'r cynnyrch Kinder hyn o'u silffoedd er mwyn peidio peryglu eu cwsmeriaid."
Ni ddylai unrhyw un sydd wedi prynu'n cynnyrch hyn eu bwyta. Yn lle hynny, dylech gysylltu â llinell ofal defnyddwyr Ferrero ar consumers.uk@ferrero.com neu 0330 053 8943 UK neu +44 (0)330 053 8943 Iwerddon, i gael ad-daliad llawn.