Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhaglen Cydbwysedd Powys yn dychwelyd i wirfoddolwyr a gofalwyr y mis Mai hwn!

Nikki Thomas-Roberts

6 Mai 2022

Nikki Thomas-Roberts
Mae rhaglen sy'n helpu gofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl Powys i gydbwyso eu hanghenion gofalu eu hunain, gydag anghenion y sawl y maent yn gofalu amdanynt, i ddychwelyd.

Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cwrs bywyd am ddim yn seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar dros wyth wythnos, yn dechrau ar ddydd Mercher 12 Mai, a diwrnod encilio am ddim yng nghampws yr academi ym Mronllys ar ddydd Sadwrn 28 Mai, ar gyfer y sawl sydd eisiau helpu i ofalu am les eu hunain, tra'n gofalu am eraill.

Yn flaenorol, roedd yr academi wedi cynnig cefnogaeth debyg i ofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl y sir yn ystod mis Chwefror, Mawrth ac Ebrill eleni, pan ddysgodd 31 o bobl dechnegau i gyflwyno 'cydbwysedd' gwell i'w bywydau, fel rhan o raglen beilot lwyddiannus. Ac mae'n agor y cwrs i fyny erbyn hyn i staff iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig y sir hefyd.

Bydd ail rownd Rhaglen Cydbwysedd Powys, a gyflwynir gan Phoenix Mindful Living, yn cynnwys:

  • Cwrs Bywyd yn seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ar brynhawniau dydd Mercher, gan ddechrau ar 12 Mai am wyth wythnos yn olynnol, 2.30 - 4.30pm. Bydd y sawl sy'n mynychu'r sesiynau ar-lein hyn yn dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar dilyniadol a fydd yn eu helpu i gadw'n ddigynnwrf ac i ddeall eu hemosiynau yn well. Mae'r cwrs hwn yn agored i ofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl, ac i staff iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig ym Mhowys.
  • Diwrnod Encilio Cydbwysedd ar ddydd Sadwrn 28 Mai, 9.30am - 3.45pm, ar Gampws Bronllys Academi Iechyd a Gofal Cymdeithasol Powys - Canolfan Basil Webb, Ysbyty Bronllys, Aberhonddu, LD3 0LU. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i ofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl a bydd yn dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar a myfyrio iddynt.

Dywedodd Nikki Thomas-Roberts, o Phoenix Mindful Living, a fydd yn arwain y sesiynau: "Nod y rhaglen hon yw helpu gofalwyr a gwirfoddolwyr di-dâl y sir i gydbwyso eu hanghenion eu hunain gydag anghenion pobl eraill.

"Mae'r grŵp hwn o drigolion Powys yn gwneud cymaint i gefnogi eraill yn eu cymunedau, ac rydym eisiau iddynt allu parhau i wneud hyn heb golli eu hanfod eu hunain. Felly, os ydych yn ofalwr neu wirfoddolwr di-dâl a allai wneud gydag ychydig o help eich hunan, ac ychydig bach o amser i'ch hunan, dewch i gysylltiad. Mae'r sesiynau a gynhaliwn, fel rhan o'r Rhaglen Gydbwysedd, yn llawer o hwyl ac yn gynhwysol iawn."

I wybod mwy ac i archebu eich lle, cysylltwch â Nikki Thomas-Roberts ar 07803 472316 (6-8pm) neu anfonwch e-bost at: phoenixmindfulliving@gmail.com 

Os yw gofalwyr di-dâl angen helpu i ofalu am aelod o'u teulu neu ffrind, tra byddant yn mynychu'r diwrnod encilio neu'r Cwrs Bywyd yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar, yna gall cefnogaeth fod ar gael trwy Credu, sy'n helpu oedolion sy'n gofalu a gofalwyr ifanc ym Mhowys - 01597 823800 neu carers@credu.cymru - neu Gyngor Sir Powys trwy ei Dîm Cefnogi Gwybodaeth Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion (ASSIST) - 0345 602 7050 (8.30am - 4.45pm Dydd Llun i ddydd Iau a 8.30am - 4.15pm ar ddydd Gwener) neu gysylltu ag ASSIST ar-lein

Sefydlwyd Academi Iechyd a Gofal Powys gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys sy'n cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO), sy'n cydweithio i wella iechyd a lles trigolion y sir.

LLUN: Nikki Thomas-Roberts a fydd yn arwain Rhaglen Cydbwysedd Powys.