Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyhoeddi Cynllun Gwella Corfforaethol

CIP 2022 Cym

9 Mai 2022

CIP 2022 Cym
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei Gynllun Gwella Corfforaethol 2022-23 yn dilyn mân adolygiad o'r prif amcanion a blaenoriaethau.

Dywedodd y Prif Weithredwr, Dr Caroline Turner: "Mae'n bleser cyhoeddi'r adroddiad hwn, sy'n cael ei adolygu a'i gyhoeddi'n flynyddol.

"Rydym wedi gweld cynnydd yn y prif feysydd er bod effaith pandemig COVID-19 yn dal yno.  Rydym yn parhau i geisio gwella yn ogystal â sicrhau bod ein Cynllun Gwella Corfforaethol yn realistig ac yn ymarferol o fewn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni."

Ychwanegodd Caroline: "Yn dilyn etholiadau llywodraeth leol wythnos diwethaf, bydd fersiwn nesaf y cynllun yn gweld newidiadau ac yn cynnwys blaenoriaethau'r Cabinet newydd.  Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chynghorwyr a'r weinyddiaeth newydd er mwyn parhau i wella ar ran trigolion, cymunedau a busnesau'r sir."

Cafodd y Cynllun Gwella Corfforaethol ei gymeradwyo gan y cyngor llawn ym mis Mawrth.