Dathliadau Diwrnod y Llyfr i Wasanaeth Llyfrgell Powys
12 Mai 2022
Drwy gydol mis Mawrth, cynhaliodd Gwasanaeth Llyfrgell Powys gystadlaethau i blant yn y Cyfnod Cyn-ysgol a'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, gan gynnwys,
- 'Dylunio Nicers Jiwbilî'r Frenhines'
- 'Beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n ymuno â'r stori?' - ysgrifennwch beth fyddai'n digwydd pe byddech chi'n cael eich sugno i mewn i'ch hoff lyfr
- 'Pwy sy'n dod i ginio?' - dywedwch ba dri chymeriad llyfr y byddech chi'n eu gwahodd i ginio a pham
Agorodd y cystadlaethau ar Ddiwrnod y Llyfr, 3 Mawrth a daeth i ben ar 1 Ebrill, gydag enillwyr pob cystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi ar 25 Ebrill.
Meddai Nina Davies, Pennaeth Tai a Datblygu Cymunedol, "Mae'n wych gweld y cystadlaethau hyn yn cael eu cynnal i ddathlu Diwrnod y Llyfr ac i arddangos doniau creadigol pobl ifanc Powys.
"Hoffwn ddiolch i'n beirniaid am roi o'u hamser i gefnogi'r cystadlaethau hyn. Llongyfarchiadau i bawb a ymgeisiodd am eu cyflwyniadau gwych ac i'r buddugwyr ymhob categori."
- Enillydd y categori Cyn-ysgol - Pippa Davies, Little Explorers yr Ystog
- Enillwyr categori'r Cyfnod Sylfaen - ar y Cyd: Curtis G, Ysgol Trefonnen a Simay, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Y Trallwng
- Enillydd categori Cyfnod Allweddol 2 - Cerys Hughes, Ysgol Dolafon
- Enillydd categori Cyfnod Allweddol 3 - Ash Miller, Ysgol Uwchradd Crucywel
Meddai Jan Newton, beirniad cystadlaethau ysgrifennu CA2 a CA3, "Mae bob amser yn anrhydedd enfawr ac yn fraint cael fy ngwahodd iddynt feirniadu cystadlaethau ysgrifennu, yn enwedig pan fydd y ceisiadau'n cael eu cynhyrchu gan bobl ifanc mor ddychmygus a thalentog. Roedd straeon eleni yn feddylgar, yn glyfar ac yn ffraeth - yn bleser go iawn i'w darllen. Mae gennym storïwyr talentog iawn ym Mhowys. Gobeithio y byddant yn parhau i fwynhau ysgrifennu ymhell i'r dyfodol."