Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor Sir Powys yn gwneud ymrwymiad i roi terfyn ar drais gan ddynion yn erbyn menywod

Matt Perry with a White Ribbon

13 Mai 2022

Matt Perry with a White Ribbon
Mae cyflwyno cynllun i newid y diwylliannau sy'n arwain at gamdriniaeth a thrais, ymysg y camau gweithredu y mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo iddynt i gael Achrediad Rhuban Gwyn. Mae hefyd wedi cytuno i hyrwyddo cydraddoldeb ymysg y rhywiau.

Mae'r cyngor yn cysylltu a chydweithio gyda White Ribbon UK,sy'n rhan o'r symudiad Rhuban Gwyn byd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod, trwy wneud yr addewidion hyn.

Mae ei gynllun i ennill achrediad yn cynnwys Polisi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol/Polisi Aflonyddwch Rhywiol i weithwyr, tra bod llysgenhadon wedi cael eu dynodi, ymhlith ei staff, i gyfleu a throsglwyddo'r neges i ragor o ddynion, i ddatblygu grwpiau eiriolaeth ieuenctid y rhuban gwyn o fewn ysgolion uwchradd y sir ac i godi ymwybyddiaeth o fewn cymunedau Powys trwy gyfryngau ac ymgyrchoedd ar-lein.   

Dywedodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys: "Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, ynghyd ag ymdrin â thrais domestig a thrais rhywiol, yn flaenoriaeth bwysig i gynghorwyr a staff o fewn Cyngor Sir Powys. Rydym wedi cynnal hyfforddiant helaeth ar bob lefel yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac fe fyddwn yn parhau i wneud hynny. Rwyf yn edrych ymlaen at wahodd cynghorwyr a etholwyd ym mis Mai i seremoni fer i ddadorchuddio ein plac Rhuban Gwyn yn ddiweddarach yr haf hwn."

Ychwanegodd Matt Perry, Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys a'i Lysgennad Arweiniol i'r Rhuban Gwyn: "Mae trais yn erbyn menywod, lle bynnag y mae'n digwydd, yn fater difrifol ond yn un y gellir ei rwystro, sydd i'w ganfod a'i weld yn anffodus ym mhob rhan o'r DU.

"Ein nod yw gwneud y rhan brydferth hon o Gymru yn lle gwell i bawb fyw, dysgu a gweithio ynddo ac rydym yn edrych ymlaen at osod esiampl o fewn ein sefydliad ein hunain y gall eraill yn ein cymunedau ei dilyn. Nid yw trais yn erbyn menywod byth yn dderbyniol ac mae angen i ni oll weithio tuag at greu amgylchedd lle y gall pawb ffynnu."

Mae symudiad y Rhuban Gwyn yn annog pobl, yn enwedig dynion a bechgyn, i newid yr ymddygiad a'r diwylliant sy'n arwain at gamdriniaeth a thrais, fel unigolion ac yn gasgliadol. Mae gwisgo rhuban gwyn yn addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi na pharhau'n dawel am drais gwrywaidd yn erbyn menywod.

Dywedodd Anthea Sully, Prif Weithredwr White Ribbon UK: "Gall sefydliadau sydd ag achrediad Rhuban Gwyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol tuag at roi terfyn i drais yn erbyn menywod trwy hyrwyddo diwylliant o barch a chydraddoldeb, ymysg eu staff a chymunedau ehangach. Trwy godi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr, gall pobl ddysgu sut i ddod yn gynghreiriaid a chodi eu llais yn erbyn ymddygiad treisgar a chamdriniaeth pan fyddant yn ei weld, yn y gwaith a'u cymunedau.

"Mae'n rhoi pleser mawr i ni groesawu Cyngor Sir Powys fel un o'n sefydliadau gydag Achrediad Rhuban Gwyn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hwy."

LLUN: Matt Perry, Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu Cyngor Sir Powys a'i Lysgennad Arweiniol i'r Rhuban Gwyn.