Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad:  Bydd llinellau Treth y Cyngor ac Adennill Treth y Cyngor ar gau ddydd Mercher 27 Mai 2026 oherwydd hyfforddiant y Tîm. Bydd ein llinellau ffôn ar agor fel arfer ar 28 Mai 2026

 

 

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2022 ac yn effeithio ar bob tenant a landlord yn y sector rhentu cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys ni fel eich landlord a chi fel ein tenant.

Bydd y ddeddf yn:

  • symleiddio sawl darn o'r ddeddf tai ac yn creu un fframwaith cyfreithiol
  • symleiddio a gwella hawliau a chyfrifoldebau
  • am y tro cyntaf bydd yn creu dau fath o gontract:
    1. Contract diogel: Defnyddir hwn yn lle'r tenantiaethau diogel a roddwyd gan y cyngor. Bydd hefyd yn cymryd lle tenantiaethau sicr a roddwyd gan Gymdeithasau Tai.
    2. Contract safonol: Mae hyn yn effeithio ar denantiaid mewn llety a rentir yn breifat ond caiff ei ddefnyddio hefyd gan y cyngor a chymdeithasau tai mewn rhai amgylchiadau (e.e. 'contract safonol cyflwyniadol' i denantiaid newydd y cyngor). 

Bydd mwy o sicrwydd i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat.

 

Sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi fel tenant y cyngor?

  • Ni fydd eich hawliau cyfreithiol i fyw yn eich cartref yn llai diogel ac ni fydd yn rhaid i chi symud cartref.
  • Byddwch yn parhau i dderbyn yr un gwasanaeth gennym ni fel eich landlord.
  • Byddwn yn dod yn 'landlord cymunedol', newid i'r term "landlord cymdeithasol'
  • Bydd tenantiaid yn dod yn ddeiliad contract.
  • Bydd cytundebau tenantiaeth yn dod yn gontractau meddiannaeth
  • Bydd hawliau olynu'n cael eu cynyddu - os ydych yn rhannu'ch cartref, caniateir dau olynydd i'r contract, er enghraifft, gŵr neu wraig wedi'i ddilyn gan aelod o'r teulu. Yn ogystal, bydd hawl olynu newydd i ofalwyr yn cael ei chreu
  • Cyd-gontractau - gellir ychwanegu deiliaid contract at gontractau meddiannaeth neu eu dileu oddi arnynt heb orfod dod ag un contract i ben a dechrau un arall. Bydd hyn yn gwneud y gwaith o reoli cyd-gontractau'n haws ac yn helpu pobl sy'n dioddef cam-drin domestig drwy ei gwneud yn bosib i droi'r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref 

Yr hyn y mae angen ichi ei wneud

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth yn awr.

Bydd tenantiaid presennol yn derbyn eu contractau meddiannaeth newydd o fewn chwe mis i 1 Rhagfyr 2022 a bydd tenantiaid newydd (deiliaid contract) yn llofnodi contract meddiannaeth newydd o'r dyddiad hwn.

Rydym wedi bod yn cyd-gysylltu'n agos â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a sefydliadau tai eraill i baratoi ar gyfer y newidiadau, ac mae ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod y newidiadau'n cael eu rhoi ar waith mor ddiffwdan â phosib.

Byddwn yn ceisio rhoi'r diweddaraf i chi ar gynnydd ac anfonir gwybodaeth atoch yn yr ychydig fisoedd nesaf i esbonio'n newidiadau'n fanylach.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - Cwestiynau Cyffredin Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 - Cwestiynau Cyffredin

Tenantiaid

Landlordiaid

 

Rhannwch y dudalen hon