Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Parcio am ddim dros benwythnos hir y jiwbilî

Image of a free parking sign

16 Mai 2022

Image of a free parking sign
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi y bydd pobl yn gallu parcio am ddim ym meysydd parcio'r cyngor dros benwythnos pedwar diwrnod Jiwbilîi Platinwm y Frenhines.

Bydd y dathliadau hyn yn digwydd rhwng 2 - 5 Mehefin 2022 gyda'r penwythnos hir yn gyfle i gymunedau ddod at ei gilydd i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol hyn.

Yn dilyn gwahoddiad y cyngor i wneud cais i gau ffyrdd am ddim er mwyn i drigolion allu trefnu partion stryd, bydd dileu'r angen i dalu i barcio dros y penwythnos yn helpu i drefnu'r dathliadau hyn yn ein trefi lleol.

Dywedodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd: "Rydym wrth ein bodd fod gymaint o'n cymunedau wedi gwneud cais i gau ffyrdd dros y penwythnos ac yn bwriadu trefnu parti stryd i ddathlu teyrnasiad hanesyddol y Frenhines.

"Trwy gynnig parcio am ddim dros y penwythnos, rydym yn gobeithio nid yn unig annog trigolion i ymweld â'n trefi lleol a bod yn rhan o'r dathliadau, ond hefyd gwneud ein rhan i gefnogi busnesau lleol sy'n anrhydeddu'r garreg filltir hanesyddol."

Bydd trigolion ac ymwelwyr yn gallu parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio'r cyngor ar ddydd Iau 2il, dydd Gwener 3ydd, dydd Sadwrn 4ydd a dydd Sul 5ed o Mehefin.