Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ffair Swyddi De Powys

Image of people attending a job fair

18 Mai 2022

Image of people attending a job fair
Bydd cyfle i drigolion sy'n byw yn ne'r sir ac yn chwilio am waith ddod i Ffair Swyddi De Powys yn Aberhonddu, dydd Mercher 25 Mai rhwng 9.30am - 1 pm.  Yno bydd cyfle i gwrdd â nifer o ddarpar gyflogwyr a fydd yn dangos unrhyw swyddi gwag sydd ganddynt a chyfloedd am yrfa.

Trefnwyd y ffair mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Grŵp Cynhyrchu Canolbarth Cymru.  Mae'n cael ei gynnal yng Ngwesty'r Castell ac mae croeso i bawb.  Mynediad am ddim.  P'un ai'n gobeithio dechrau o'r newydd, cael gwell swydd neu symud i gyfeiriad arall, bydd yma lwyth o gyfleoedd cyffrous gyda nifer o gyflogwyr lleol o sawl sector.

Cafwyd ymateb gwych gan gyflogwyr lleol sydd am gymryd rhan yn y ffair swyddi, yn eu plith mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Beacon Foods, Morrisons, Greggs, Compass Group, Capital Cuisine, Old Railway Line, Phoenix, Abacare, Cartrefi Cymru, PCI Pharma a Chyngor Sir Powys.

"Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i gysylltu pobl dalentog ein cymunedau sy'n chwilio am swyddi, gyda chyflogwyr ym Mhowys sydd am recriwtio, ac mae'n ffordd wych i gwrdd wyneb yn wyneb i drafod swyddi gwag a'r posibiliadau o ran gyrfa, i rwydweithio a gwneud cysylltiadau," esboniodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd.

"Mae'r diwrnod hwn am ddim ac mae croeso i bawb sy'n chwilio am gyfleoedd newydd.  Bydd staff wrth law ar y dydd i gynnig cymorth i rai sy'n chwilio am waith, os ydyn nhw angen help i sicrhau gwaith.  Gobeithio eich gweld chi yno."

Ffair Swyddi De Powys

Pryd: Dydd Mercher 25 Mai 2022, 9.30am - 1pm
Ymhle: Gwesty'r Castell, Aberhonddu, LD3 9DB
Manylion pellach: 07552 805152 / rachael.haggan1@dwp.gov.uk