Ysgrifennu Adroddiadau - Gwasanaethau i Oedolion
Hyfforddiant Ar-lein drwy Teams
Darparwyd gan: The Crew DCC Interactive
Cynulleidfa Darged: Timau Gwaith Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant)/Darparwyr / Gofalwyr
Nodau
Mae'r cwrs hwn yn ystyried ysgrifennu cofnodion ar gyfer y llys a dogfennau eraill, gan gynnwys sut i ddadansoddi a chrynhoi. Yn aml mae'n ofynnol i weithwyr cymdeithasol proffesiynol a darparwyr gofal proffesiynol ysgrifennu eu datganiadau/adroddiadau eu hunain neu i gynorthwyo tystion eraill i wneud hynny. Bydd tystiolaeth ysgrifenedig ardderchog yn aml yn golygu na fydd angen i dyst roi tystiolaeth. Yn aml, caiff datganiadau / adroddiadau eu hysgrifennu mewn fformat neu arddull sy'n eu gwneud nhw'n anodd eu darllen, fel bod effaith y dystiolaeth yn cael ei golli. Bydd datganiad/adroddiad da yn helpu i ynysu'r tystion a'r sefydliad rhag ymosodiadau maith ar eu tystiolaeth wrth iddynt gael eu croesholi.
Deilliannau
- Mae'r cwrs hwn yn cynorthwyo cynrychiolwyr i ddeall beth sy'n ofynnol o'r datganiadau/ adroddiadau. Bydd yn ystyried cynnwys y datganiadau /adroddiadau drwy edrych ar ffynhonnell a phwysau'r dystiolaeth i gael ei chynnwys a dysgu i wahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a safbwyntiau. Bydd hefyd yn ystyried arddull a fformat datganiadau / adroddiadau yn unol â Rhan 14 COPR sy'n cael ei amlygu gan Gyfarwyddyd Ymarfer 14. Gellir addasu'r samplau a'r modelau i weddu'r maes a'r cyd-destun sy'n angenrheidiol i'r sefydliad. Bydd cynrychiolwyr yn adolygu amrywiaeth o ddatganiadau / adroddiadau ac yn defnyddio meini prawf asesu nodau i asesu eu tystiolaeth a derbyn adborth ar dystiolaeth ysgrifenedig i wella eu sgiliau tystiolaeth ysgrifenedig.
- Sut i gasglu tystiolaeth yn fwy effeithiol drwy wybod sut y caiff ei gynnwys mewn tystiolaeth ysgrifenedig.
- Sut i gyfeirio cofnodion a nodiadau fel y prif ffynhonnell ar gyfer ysgrifennu'r datganiad / adroddiad.
- Sut i ddynodi'r materion a'r ffeithiau, a'r ffynhonnell a phwysau'r ffeithiau hynny.
- Datblygu dadansoddiad clir a pherswadiol.
- Defnyddio gosodiad, fformat ac arddull priodol.
- Defnyddio tystiolaeth ysgrifenedig fel arf i setlo achosion neu fel sail i roi tystiolaeth ar lafar.
- Deall y defodau, gan gynnwys, a yw'n berthnasol, y rheolau sy'n rheoli datganiadau / adroddiadau.
Dyddiadau:
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses