Gwobrau Gwaith Diogelu yn cydnabod ymroddiad gweithwyr diogelu proffesiynol
23 Mai 2022
Cynhaliodd Byrddau Diogelu Plant Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) a'r Byrddau Diogelu Oedolion (CWMPAS) ei seremoni wobrwyo gyntaf i gydnabod cyfraniad gweithwyr allweddol wrth gadw plant ac oedolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau'n ddiogel.
Cafodd pump aelod staff Cyngor Sir Powys eu rhoi ar y rhestr fer am eu gwaith ar draws Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Plant, gyda thri ohonynt yn derbyn cymeradwyaeth am eu gwaith.
Cafodd Zoe Ellams, Gweithiwr Llesiant yn nhîm Gwasanaethau Plant gymeradwyaeth uchel yn y categori Dangos Ymroddiad Eithriadol wrth Ddiogelu Plant mewn perygl yn ystod cyfyngiadau COVID. Cafodd Zoe ei chydnabod am ei gwaith di-flino yn helpu teulu yn ystod y pandemig a'i harbenigedd wrth alluogi plentyn gydag anghenion cymhleth i fynegi a phrosesu teimladau ar ôl colli rhiant yn sydyn iawn.
Derbyniodd Jess Antrobus, Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion gymeradwyaeth uchel yn y categori Dangos Gwaith Eithriadol wrth Ddiogelu Oedolion mewn Perygl. Mae Jess wedi datblygu adnoddau hyfforddi i helpu ymarferwyr a phartneriaid wella'u dealltwriaeth yn y maes diogelu oedolion mewn perygl.
Cafodd Tîm Camfanteisio ar Blant Powys eu cymeradwyo yn y categori Arloesedd a Chreadigrwydd yn arwain at gwella gwaith diogelu i blant neu oedolion mewn perygl. Mae'r tîm wedi llwyddo i hwyluso dull aml-asiantaeth i wella'r gefnogaeth i blant mewn perygl o gamfanteisio fel bod y bobl ifanc ac aelodau'r teulu'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso.
Dywedodd Ali Bulman, Cyfarwyddwr Gweithredol sy'n gyfrifol am Ofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Plant: "Rwy wrth fy modd bod gwaith Jess, Zoe a Thîm Camfanteisio ar Blant Powys wedi cael ei gydnabod fel hyn.
"Mae'r timoedd wedi bod yn gweithio dan bwysau enfawr ac mae eu hymrwymiad i wneud eu gorau glas i deuluoedd a thrigolion yn rhyfeddol. Da iawn chi a diolch yn fawr iawn i'r holl staff am eu holl waith yn cadw plant ac oedolion mwyaf bregus ein cymunedau'n ddiogel."
Yn bresennol ac yn annerch y seremoni oedd Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan, a dywedodd: "Mae'n bleser ac yn anrhydedd gallu dathlu gwobrau Gwaith Diogelu sy'n cydnabod gwaith caled, sgiliau ac ymroddiad y rhai sydd yna, yn arbennig o gofio'r heriau aruthrol i wynebu'r sector ers mis Mawrth 2020."