Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Grantiau er mwyn creu gwarchodfeydd natur ym Mhowys

Image of some wild flowers

23 Mai 2022

Image of some wild flowers
Mae gwahoddiad i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, ysgolion a sefydliadau eraill i wneud cais am arian grant i greu mannau natur yn yr ardal leol.

Yn ddiweddar, derbyniodd Bartneriaeth Natur Powys nawdd gan Lywodraeth Cymru trwy gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.   Nod y cynllun yw creu natur ar stepen y drws, lle mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn cyrraedd gwasanaethau cyhoeddus.

Gyda help ein cymunedau, nod Partneriaeth Natur Powys yw adfer a gwella natur ar draws y sir.  Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedau i fwrw ati i greu a gwella lleoedd natur ac ar gyflwyno natur i ardaloedd trefol ac ardaloedd sydd heb natur.  Mae treulio amser gyda natur o fudd i'n lles meddyliol a chorfforol, felly yn ogystal â chreu amgylchedd mwy cynaliadwy ac eco-gyfeillgar, bydd cymunedau lleol yn elwa hefyd.

"Ar draws Cymru a gweddill y DU, rydym yn gweld dirywiad mewn rhywogaethau a gostyngiad yn ardaloedd llawn natur," esboniodd Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Economi a'r Amgylchedd.

"Mae grantiau'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn cael eu cynnig i gymunedau i'w defnyddio mewn ffordd i greu mannau lleoedd ar gyfer natur.  Nid yn unig y bydd y gwarchodfeydd hyn yn helpu ac yn gwella'r amgylchedd lleol ond bydd hefyd yn creu ardaloedd i'n trigolion ni fwynhau manteision treulio amser gyda natur."

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 Mehefin 2022.  Am fwy o wybodaeth a ffurflen gais, ewch i: Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur