Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweini bwyd diogel dros Ŵyl y Banc

Food Standards Agency

25 Mai 2022

Food Standards Agency
Dim ond naw diwrnod sydd i fynd tan penwythnos hir Gŵyl y Banc, felly os ydych chi'n bwriadu dathlu ym Mhowys a ddim yn siwr lle i ddechrau, mae Asiantaeth Safonau Bwyd a Chyngor Sir Powys yma i helpu.

Mae ganddynt rai awgrymiadau hawdd er mwyn sicrhau bod bwyd y dathliadau'n gofiadwy am y rhesymau iawn.

I sicrhau dathliad heb risg, cofiwch fod tywydd braf a choginio yn yr awyr agored yn creu'r amodau perffaith i facteria dyfu, a bydd risgiau'n parhau wrth baratoi a gweini bwydydd oer yn yr amodau hyn.

Dywedodd Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: "Mae'r penwythnos hir yn gyfle i gymunedau ar draws Cymru fwynhau dod at ei gilydd fel ffrindiau a theulu.  Mae dathlu'n ddiogel yn golygu ystyried diogelwch bwyd o flaen llaw, fel y gallwch ganolbwyntio ar fwynhau'r parti ar y diwrnod."

Dywedodd Gwilym Davies, Pennaeth Cynllunio, Eiddo a Gwarchod y Cyhoedd, Cyngor Sir Powys: "Mae llawer i'w drefnu fel mae pawb yn gwybod, ond cofiwch fod hylendid hefyd yn bwysig, felly ystyriwch yn ofalus sut y byddwch yn paratoi, coginio ac yn storio bwyd.  Nid oes neb am gael bwyd anniogel i sbwylio hwyl y dydd."

Yn trefnu digwyddiad ym Mhowys?  Dyma rai awgrymiadau syml os ydych chi'n paratoi bwyd i nifer fawr o bobl:

  • dylech olchi dwylo'n rheolaidd gyda sebon a dŵr cyn paratoi a bwyta bwyd.
  • dylech bob amser olchi ffrwythau a llysiau
  • cadwch fwydydd amrwd a bwydydd parod ar wahân.
  • peidiwch â defnyddio bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio olaf
  • cofiwch ddarllen unrhyw gyfarwyddiadau coginio a gwneud yn siwr fod y bwyd wedi'i goginio'n gywir cyn ei weini - dylai fod yn grasboeth.
  • gwnewch yn siwr fod ardaloedd paratoi bwyd yn lân ac wedi'u diheintio cyn ac ar ôl eu defnyddio gan olchi cyfarpar mewn dŵr poeth â sebon.
  • cynlluniwch ymlaen er mwyn cadw'r bwyd yn oer tan fyddwch yn barod i fwyta.  Dylid cadw unrhyw fwydydd fyddech fel arfer yn eu cadw yn yr oergell adref, yn oer hefyd ar eich picnic.  Mae hyn yn cynnwys: unrhyw fwyd gyda dyddiad defnyddio olaf, bwydydd wedi'u coginio, salads a chynnyrch llaeth.  Rhowch y bwydydd hyn mewn bocs neu fag oer gyda rhew neu becynnau gel wedi rhewi.  Dosbarthwch rhain trwy'r bocs neu'r bag ac nid rhoi'r cyfan ar y gwaelod.  Gallwch hefyd defnyddio diodydd wedi'u rhewi i gadw'r bocs yn oer.  Dylech storio bwyd oer o dan bum gradd fel na fydd bacteria'n tyfu.

Nid oes angen tystysgrif hyfforddiant hylendid bwyd i baratoi a gwerthu bwyd ar gyfer digwyddiadau elusennol, ond mae angen i chi wneud yn siwr eich bod yn trin bwyd yn ddiogel.  Dilynwch ganllawiau'r Asiantaeth Safonau Bwyd sef:  glanhau, oeri, coginio, atal croeshalogi i'ch helpu chi baratoi gwledd diogel i'r gymuned. 

Os ydych chi'n trefnu digwyddiad penodol i ffrindiau a chymdogion, nid oes angen cofrestru, ond os oes unrhyw fusnesau bwyd yn bresennol, rhaid iddynt gofrestru â'r cyngor lleol.

Cewch fanylion pellach ar gynnal parti stryd ar wefan Asiantaeth Safonau Bwyd.