Arweinydd a Chadeirydd Newydd i'r cyngor

26 Mai 2022

Etholwyd y Cyng. James Gibson-Watt, sy'n cynrychioli ward Y Clas-ar-Wy fel Arweinydd Gweithredol yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol y cyngor heddiw (Dydd Iau, 26 Mai).
Yn y cyfarfod, cyhoeddodd y Cyng. Gibson-Watt y bydd y Cabinet yn bartneriaeth rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llafur Cymru.
Mae'r Cyng. Gareth Ratcliffe, sy'n cynrychioli ward y Clas-ar-Wy, wedi cael ei benodi yn Gadeirydd y Cyngor.
Mae'r Cyng. Beverley Baynham, sy'n cynrychioli ward Llanandras, wedi cael ei phenodi yn Is-gadeirydd a'r Cyng. Jonathan Wilkinson, sy'n cynrychioli ward Llangynyw a Meifod, wedi cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cynorthwyol.
Pennawd y llun: O'r chwith, Cyngh Beverley Baynham, James Gibson-Watt, Cllr Gareth Ratcliffe, Prif Weithredwr Caroline Turner & Cyng Jonathan Wilkinson.