Cyfle i ofalwyr di-dâl ym Mhowys wneud cais am £500 o daliad cymorth
27 Mai 2022
Ariennir y taliadau hyn o £500 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol i wynebu nifer o ofalwyr di-dâl dros y pandemig, ac i helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol.
Rhaid i'r rhai hynny sy'n cyflwyno cais, fod yn byw ym Mhowys. Rhaid hefyd:
- Gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel
- Derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 neu wedi derbyn ôl-daliad Lwfans Gofalwyr ar y dyddiad hwnnw.
Gall gofalwyr di-dâl wneud cais ar-lein trwy wefan Cyngor Sir Powys: Tâl Cymorth Ariannol i Ofalwyr di-dâl
Os bydd gofalwr di-dâl angen help llaw i wneud cais, neu angen manylion pellach, mae modd galw'r cyngor ar 01597 826345 neu dros e-bost: reviews@powys.gov.uk
Dywedodd Dylan Owen, Pennaeth Comisiynu a Phartneriaethau (Gwasanaethau Cymdeithasol) Cyngor Sir Powys: "Byddwn yn ysgrifennu'n uniongyrchol at nifer o bobl yn eu gwahodd i wneud cais, ond os ydych chi'n ofalwr di-dâl ac yn derbyn Lwfans i Ofalwyr, ac nad ydym wedi cysylltu, yna rydym am glywed gennych!
"Rydym o'r farn y gallai gymaint â 1,400 o drigolion Powys fod yn gymwys i dderbyn £500 a allai wneud gwahaniaeth mawr os ydyn nhw'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae ein gofalwyr di-dâl yn gwneud gwaith anhygoel yn helpu rhai o drigolion y sir sydd fwyaf agored i niwed, ac rydym am wneud ein rhan i'w helpu nhw."
Bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd am 5pm dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi 2022.
Gall gofalwyr di-dâl hefyd gysylltu â Chyngor Sir Powys ar 01597 826345 am gyngor cyffredinol ar grantiau a budd-daliadau.