Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i ofalwyr di-dâl ym Mhowys wneud cais am £500 o daliad cymorth

An unpaid carer supporting her mother

27 Mai 2022

An unpaid carer supporting her mother
Mae'r cyngor sir yn gwahodd ceisiadau gan unrhyw un ym Mhowys allai fod yn gymwys, ar gyfer Grant Cymorth Ariannol i Ofalwyr di-dâl.

Ariennir y taliadau hyn o £500 gan Lywodraeth Cymru er mwyn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol i wynebu nifer o ofalwyr di-dâl dros y pandemig, ac i helpu gyda rhai o'r costau ychwanegol.

Rhaid i'r rhai hynny sy'n cyflwyno cais, fod yn byw ym Mhowys. Rhaid hefyd:

  • Gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos ac ar incwm isel
  • Derbyn Lwfans Gofalwyr ar 31 Mawrth 2022 neu wedi derbyn ôl-daliad Lwfans Gofalwyr ar y dyddiad hwnnw.

Gall gofalwyr di-dâl wneud cais ar-lein trwy wefan Cyngor Sir Powys: Tâl Cymorth Ariannol i Ofalwyr di-dâl

Os bydd gofalwr di-dâl angen help llaw i wneud cais, neu angen manylion pellach, mae modd galw'r cyngor ar 01597 826345 neu dros e-bost: reviews@powys.gov.uk

Dywedodd Dylan Owen, Pennaeth Comisiynu a Phartneriaethau (Gwasanaethau Cymdeithasol) Cyngor Sir Powys: "Byddwn yn ysgrifennu'n uniongyrchol at nifer o bobl yn eu gwahodd i wneud cais, ond os ydych chi'n ofalwr di-dâl ac yn derbyn Lwfans i Ofalwyr, ac nad ydym wedi cysylltu, yna rydym am glywed gennych!

"Rydym o'r farn y gallai gymaint â 1,400 o drigolion Powys fod yn gymwys i dderbyn £500 a allai wneud gwahaniaeth mawr os ydyn nhw'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.  Mae ein gofalwyr di-dâl yn gwneud gwaith anhygoel yn helpu rhai o drigolion y sir sydd fwyaf agored i niwed, ac rydym am wneud ein rhan i'w helpu nhw."

Bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd am 5pm dydd Gwener 15 Gorffennaf 2022.  Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu rhwng mis Mehefin a diwedd mis Medi 2022.

Gall gofalwyr di-dâl hefyd gysylltu â Chyngor Sir Powys ar 01597 826345 am gyngor cyffredinol ar grantiau a budd-daliadau.