Digwyddiad ar-lein ar Lety â Chymorth
01/06/2022
Beth am ymuno â'n digwyddiad ar-lein i wybod mwy am y cynllun Llety â Chymorth, a sut y gallech chi helpu pobl ifanc rhwng 16-25 oed ym Mhowys sydd mewn perygl o fod yn ddi-gartref.
Bydd y digwyddiad yn digwydd nos Fercher 29 Mehefin am 7pm dros Microsoft Teams yn eich cartref eich hun.
Bydd ein Cydlynwyr Llety â Chymorth sy'n gyfeillgar a phrofiadol, wrth law ar-lein i ateb eich cwestiynau ar sut y byddwn yn eich helpu chi i arwain a mentora pobl ifanc er mwyn gallu parhau i fyw yn eu cymunedau a mynd i'r ysgol leol.
Fel rhywun sy'n cynnig Llety â Chymorth, byddwch yn derbyn gwobr ariannol, hyfforddiant a chefnogaeth - a'r boddhad o fod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a fyddai fel arall yn wynebu bod yn ddi-gartref.
Dywedodd Sarah, Llety â Chymorth, Cyngor Sir Powys: "Daw'r boddhad o weld person ifanc yn tyfu'n oedolyn hyderus, hunangynhaliol, sydd â syniadau cadarnhaol am eu dyfodol.
"Os ydych chi'n rhywun sy'n hoff o bobl ac eisiau gwneud gwahaniaeth, yna mae dod yn letywr llety â chymorth yn bendant i chi!"
Byddwch yn clywed mwy gan rai sy'n cynnig Llety â Chymorth ar hyn o bryd yn y digwyddiad ar-lein, felly dewch â phaned a bisgeden ac ymuno â ni i weld sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth!
Llenwch y ffurflen yma https://bit.ly/38M7CUq i gofrestru diddordeb a byddwch yn derbyn dolen i ymuno â'r cyfarfod Teams.