Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyfleusterau crynhoi gwastraff Gogledd Powys

Image showing a recycling icon

7 Mehefin 2022

Image showing a recycling icon
Cadarnhaodd Cyngor Sir Powys y bydd cais am drwydded amgylcheddol ar gyfer cyfleusterau crynhoi gwastraff Gogledd Powys yn Abermiwl yn cael ei ailgyflwyno yr wythnos hon i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd y cais blaenorol am drwydded ei wrthod ym mis Mawrth gyda dim ond ambell i fân broblem i'w ddatrys. Er mwyn mynd i'r afael â'r prif bwynt yn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, ac i atgyfnerthu'r cynllun atal a diffodd tân ar y safle, mae'r cyngor hefyd yn cyflwyno cais cynllunio i osod tanc dŵr ar y safle.

"Cafodd y cynlluniau ar gyfer y safle pwrpasol eu hystyried yn ofalus gan ystyried sylwadau'r gymuned leol," esboniodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Rydym yn deall eu pryderon o ran y posibilrwydd o gludo gwastraff gweddilliol i'r safle, ond rydym am bwysleisio'r safiad blaenorol nad oes unrhyw fwriad gwneud hynny ar hyn o bryd. Mae yna gytundeb troi gwastraff yn ynni i gasglu gwastraff gweddilliol gyda threfniant iddo gael ei grynhoi mewn gorsaf drosglwyddo yn Y Trallwng, ar gost ychwanegol i'r Cyngor, ac nid oes unrhyw gynlluniau i newid hyn ar hyn o bryd.

"Ail-aseswyd y cais am drwydded amgylcheddol ac erbyn hyn rydym wedi mynd i'r afael â'r problemau y soniodd Cyfoeth Naturiol Cymru amdanynt nôl yn y gwanwyn.  Mae diogelwch y safle'n holl bwysig, a bydd tanc dŵr yn cael ei osod yno yn unol â chanllawiau diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylai hyn gynnig tawelwch meddwl i'r gymuned sydd wedi datgan pryderon am ddiffyg dŵr ar y safle os byddai argyfwng.

"Mae sicrhau bod y cyfleuster hwn sydd o'r radd flaenaf yn rhedeg yn effeithiol ac yn ddiogel mor fuan â phosibl yn hanfodol i ni barhau i ddarparu gwasanaeth cynaliadwy mewn ffordd lanach a gwyrddach, tra ar yr un pryd yn cwrdd â thargedau ailgylchu statudol cynyddol Llywodraeth Cymru."

Wedi'i gynllunio'n benodol i greu gweithle i'n cerbydau sbwriel ac ailgylchu, criwiau a staff cymorth, mae'r safle eisoes yn ganolfan weithredol swyddogol. O ganol mis Gorffennaf, bydd y gwasanaeth yn rhedeg yn llwyr o'r cyfleuster newydd hwn. Ni fydd unrhyw waith sydd angen trwydded amgylcheddol yn digwydd tan i ni dderbyn y drwydded.