Toglo gwelededd dewislen symudol

Yn galw holl drigolion Llandrindod a Rhaeadr Gwy!

Girl with arm in the air

10 Mehefin 2022

Girl with arm in the air
Oes gennych chi ystafell wely sbâr a chalon garedig? Os mai oes yw'r ateb, yna dewch draw i'n digwyddiad galw heibio i ddarganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yn eich cymuned.

Galwch heibio ein sesiwn anffurfiol yn yr Hive, Llandrindod ddydd Llun, 20 Mehefin rhwng 10am a 12 canol dydd i sgwrsio â'n Cydlynydd Llety â Chymorth.

Nid oes angen archebu lle, dewch heibio i glywed mwy am sut y gallwch gefnogi pobl ifanc yn eich cymuned.

Mae angen gwestywyr llety â chymorth i arwain a mentora pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed ym Mhowys sydd wedi bod mewn gofal maeth yn y gorffennol neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Fel gwestywr, byddwch yn derbyn gwobr ariannol, yn ogystal â hyfforddiant a chymorth - a'r boddhad o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a allai fel arall wynebu digartrefedd.

Methu mynd i'r Hive ar y diwrnod hwnnw?  Peidiwch â phoeni gallwch ymuno â'n digwyddiad ar-lein ar 29 Mehefin - https://bit.ly/38M7CUq neu cysylltwch â ni am sgwrs ar 01597 827325 / supported.lodgings@powys.gov.uk