Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaeth Flaengar Powys i gymryd y camau cyntaf ar gyfer ysgolion

Image of a primary school classroom

10 Mehefin 2022

Image of a primary school classroom
Fel un o'i gamau arwyddocaol cyntaf, bydd Cabinet newydd Cyngor Sir Powys yn ailedrych ar benderfyniadau allweddol a gymerwyd gan Gabinet blaenorol y Cyngor ynglŷn ag ysgolion.

Yn gynharach eleni, cytunodd y weinyddiaeth flaenorol i gau ysgolion cynradd Llanfihangel Rhydieithon (Dolau) a Llanbedr.

Wrth sôn ar y cam hwn, dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd y Cyngor: "Roedd adolygu'r broses trawsnewid ysgolion yn ymrwymiad clir ac mae'n rhan bwysig o'n cytundeb Partneriaeth Flaengar.

"Gwnaed y penderfyniadau ar yr ysgolion hyn wrth i gyfnod y Cyngor blaenorol ddod i ben, ac yn wyneb gwrthwynebiad nid yn unig gan ddisgyblion, rhieni a staff yr ysgolion ond hefyd gan rai o'r cymunedau yr effeithir arnynt ac yn wir gan lawer o aelodau ar draws y Cyngor.

"Felly, bydd y Cabinet newydd yn ailedrych ar y materion hyn fel un o'i gamau cyntaf fel rhan o'r broses honno.

"Efallai bydd hyn yn oedi'r broses ac yn achosi rhywfaint o ansicrwydd, ond credwn fod angen i'r Cabinet ystyried y goblygiadau ehangach yn ofalus.

"Fodd bynnag, mae'r Bartneriaeth wedi ymrwymo i'r Strategaeth Drawsnewid ac mae am gyflymu'r broses gyflawni, oherwydd nid yw parhau â'r sefyllfa bresennol ar draws y Sir yn opsiwn." ychwanegodd.