Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Contractwr yn cael ei benodi i adeiladu ysgol arbennig newydd

Image of Brynllywarch Hall School

13 Mehefin 2022

Image of Brynllywarch Hall School
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi bod prosiect adeiladu a fydd yn trawsnewid addysg i ddysgwyr sy'n agored i niwed ym Mhowys wedi cyrraedd careg filltir bwysig.

Dyfarnwyd y contract gan Gyngor Sir Powys i ISG Ltd i adeiladu ysgol newydd Ysgol Neuadd Brynllywarch.  Bydd y gwaith adeiladu ar y prosiect sy'n werth £9.1m yn cychwyn dechrau'r flwyddyn nesaf.

Mae'r ysgol, sydd wedi'i lleoli yn Ceri ger y Drenewydd, yn darparu addysg i ddisgyblion rhwng 8 a 19 oed sydd ag ystod eang o anawsterau emosiynol, ymddygiadol a chymdeithasol cymhleth.

Bydd y prosiect yn helpu'r cyngor i wella hawliau a phrofiad dysgwyr.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cyngor wedi darparu ysgol bwrpasol a blaenllaw sy'n canolbwyntio ar y gymuned gyda 72 o leoedd mewn amgylcheddau sy'n briodol i'w hoedran a fydd yn cynnwys:

  • Cymorth a darpariaeth arbenigol i ddisgyblion ag ymddygiad heriol, anawsterau emosiynol a chymdeithasol mewn amgylchedd dysgu modern ac arloesol
  • Mannau dysgu priodol i gyflwyno'r cwricwlwm cenedlaethol newydd
  • Offer arbenigol, gan gynnwys cyfleusterau TG, i gefnogi deilliannau addysgu a dysgu a fydd yn helpu i sicrhau bod pob dysgwr yn manteisio i'r eithaf ar ei botensial
  • Dosbarthiadau gyda'r holll gyfarpar priodol, gyda gofod ymrannu a chyfleusterau hylendid, ynghyd ag ardal ddysgu awyr agored unigol.

Bydd grwpiau cymunedol hefyd yn gallu defnyddio'r cyfleusterau y tu allan i oriau ysgol.

Bydd Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif gynt) yn ariannu 75% o'r prosiect i adeiladu'r ysgol gyda'r 25% sy'n weddill yn cael ei ariannu gan y cyngor.

Y datblygiad cyffrous hwn yw prosiect adeiladu diweddaraf y cyngor drwy dendr a'r Fframwaith TOM Cenedlaethol - sy'n sefyll am themâu, canlyniadau a mesurau - a datblygwyd i helpu cynghorau i fesur y canlyniadau gwerth cymdeithasol yn eu contractau.

Cyfrifwyd mai elfen gwerth cymdeithasol y prosiect hwn yw £2.093m sy'n golygu y bydd yn rhaid i ISG Ltd roi cyfleoedd sylweddol i gontractwyr lleol yn ogystal â sicrhau manteision cymunedol ychwanegol wrth i'r ysgol gael ei hadeiladu.

Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Rwy'n falch iawn o weld ISG Ltd yn cael ei benodi fel y prif gontractwyr i adeiladu ysgol newydd Ysgol Neuadd Brynllywarch.

"Nid yw adeilad presennol Neuadd Brynllywarch yn cynnig amgylchedd addas ar gyfer gofynion addysgu a chefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol neu gymdeithasol sylweddol.

"Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd yr adeilad newydd yn darparu amgylchedd lle gall staff addysgu ffynnu ynghyd â darparu cyfleusterau a fydd yn diwallu anghenion disgyblion, gan roi profiad addysgol mwy pleserus a boddhaus iddynt.

"Felly, edrychwn ymlaen at gydweithio ag ISG Ltd wrth iddyn nhw droi'r cynlluniau'n frics a morter."

Dywedodd Kath Roberts-Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr a'r Pennaeth Gavin Randell: "Mae cymuned yr ysgol gyfan wrth ei bodd bod yr ysgol newydd sydd ei hangen yn fawr yn mynd yn ei blaen ac mae'n edrych ymlaen at gydweithio'n agos gyda'r contractwyr i gwblhau'r ysgol."

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau ISG, Kevin McElroy: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i adeiladu cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer Ysgol Neuadd Brynllywarch.  Mae'n brosiect enghreifftiol sydd wedi'i gynllunio o amgylch egwyddorion o gydweithio cryf â chontractwyr i ddarparu cyfleuster addysg rhagorol sy'n dod â chyfleoedd dysgu cyfartal i'w holl fyfyrwyr.

"Ar ôl ei gwblhau, bydd y cyfleuster yn darparu'r cymorth arbenigol sydd ei angen a'r amgylcheddau dysgu i gyflwyno gwersi wedi'u teilwra, gan alluogi a grymuso pob disgybl i gael ei addysgu yn unol â'r cwricwlwm cenedlaethol - i gyd tra'n bodloni meini prawf amgylcheddol hanfodol. Unwaith y bydd yr ysgol ar agor, bydd yn cyflawni'r nod gweithredu carbon sero-net ac yn cynnig gwerth cymdeithasol sylweddol.  Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Phowys ac i wneud y mwyaf o gyfleoedd lleol.

"Mae cyflawni'r prosiect hwn yn ehangu ein profiad helaeth yn yr ardal a dyma'r prosiect diweddaraf rydym wedi'i sicrhau drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru drwy Fframwaith SEWSCAP3. Mae'n dilyn y gwaith llwyddiannus i gwblhau Ysgol Gynradd South Point ym Mro Morgannwg yn gynharach eleni, sef yr ysgol ddi-garbon net gyntaf yng Nghymru."