Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahoddiad i Drigolion i Ddiwrnodau Gwybodaeth am Ganser

ICJ Summer Information 2

14 Mehefin 2022

ICJ Summer Information 2
Mae gwahoddiad yn cael ei ymestyn i drigolion Powys yng ngogledd y sir sy'n byw gyda chanser, sy'n pryderu am ganser, sydd wedi cael neu sy'n cael profion ar hyn o bryd, i alw heibio digwyddiad gwybodaeth hanner diwrnod a gynhelir yn y Trallwng ddydd Llun 27 Mehefin yn Neuadd Chwaraeon yng Nghanolfan Hamdden y Flash unrhyw bryd rhwng 1pm a 5pm.

Mae tîm rhaglen Gwella'r Daith Ganser ym Mhowys (ICJ)  yn cynnal dau ddigwyddiad yn y sir - un yn y Gogledd ac un yn y De - fel y gall pobl ddysgu mwy am y gefnogaeth leol sydd ar gael iddynt.

Bydd trigolion yn gallu casglu gwybodaeth, sgwrsio ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol a sefydliadau'r trydydd sector a threfnu apwyntiad dilynol gydag un o'r gweithwyr cyswllt hyfforddedig i drafod eu hanghenion penodol eu hunain.  Gall ymwelwyr hefyd ymuno ag eraill sy'n byw gyda chanser am sgwrs dros de/coffi a chacennau cri.    

Bydd cyfle hefyd i wrando ar sgyrsiau gan Louise Hymers, Nyrs Ganser Arweiniol, aelod o staff Canolfan Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan o ysbyty Amwythig a Telford, Credu sy'n cefnogi gofalwyr di-dâl, uwch Gysylltydd Cymunedol PAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys) a Tim, sy'n byw yn y Trallwng a fydd yn siarad am ei daith ganser o dan y pennawd 'Ry'ch chi byth yn gwybod'. 

Bydd pawb sy'n mynychu yn derbyn bag o nwyddau ICJ a bydd eu henwau'n cael eu cynnwys mewn raffl am ddim gyda gwobrau sy'n cynnwys hamper llesiant a thocyn teulu i ddau oedolyn a thri o blant i Gastell Powis. Mae'r Flash yn cynnig tocyn tri diwrnod i'r ganolfan i bawb sy'n mynychu a bydd taith o amgylch y gampfa ar gael hefyd.  Gall ymwelwyr hefyd gael sesiwn ymlaciol o dylino dwylo am ddim gan y therapydd tylino lleol Kate Evans.

Dywedodd Meinir Morgan, Rheolwr y Rhaglen : 

"Bydd ein Diwrnod Gwybodaeth yn rhannu'r pethau rydym wedi bod yn eu rhoi ar waith ym Mhowys ers i'r rhaglen ddechrau. Y prif nod yw cefnogi pobl yn well yn ystod eu taith ganser.  Heb ysbyty cyffredinol ardal yn y sir, rydym yn gwybod o ymchwil a wnaed gan Gymorth Canser Macmillan - ein cyllidwyr - ac o sgyrsiau ry'n ni wedi cael ein hunain, pa mor unig y gall pobl deimlo cyn ac ar ôl triniaeth.  Yn aml, gall pobl fod â chwestiynau ar amrywiaeth o faterion nad ydynt o reidrwydd yn rhai meddygol ac yn aml nid ydynt yn siŵr ble i droi. Rydym mewn sefyllfa i gynnig pecyn cymorth cydgysylltiedig i bobl yn seiliedig ar eu hanghenion, boed yn rhai ariannol, yn ymarferol, yn emosiynol, yn gorfforol, yn gymdeithasol neu'n ysbrydol."

Dywedodd Dr Ruth Corbally, Meddyg Teulu Arweiniol ar Ganser Macmillan a'r Arweinydd Clinigol ar gyfer Canser, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Noddwr ICJ : 

 

"Os ydych chi'n byw gyda chanser, yn cefnogi rhywun sy'n byw gyda chanser, neu ddim ond eisiau galw heibio i ddarganfod mwy am yr arwyddion a'r symptomau, byddem wrth ein bodd yn eich gweld.  Bydd pob un o'n pedwar partner cyflawni - PAVO, Credu, Ymddiriedolaeth Bracken a'n nyrsys lliniarol arbenigol ein hunain - wrth law. Mae ein rhaglen yn defnyddio pecyn asesu profedig Macmillan a fydd ar ôl ei gwblhau yn ein helpu i ddarparu'r pethau sydd bwysicaf i unrhyw un sy'n byw gyda chanser, p'un a yw hynny yn fathodyn glas, cael eu presgripsiynau wedi'u casglu, eu lawntiau wedi'u torri neu'n gallu cael gafael ar dylino neu gwnsela i helpu gyda phryder."

Ochr yn ochr â'r pedwar partner cyflawni, bydd gwybodaeth gan Dîm Cyngor Ariannol y cyngor, y prosiect Llyfrau am Ganser, Cymorth - gwasanaeth gwybodaeth a chyngor y cyngor ar gyfer gofal oedolion, Beiciau Gwaed Cymru, prosiect Lles Gogledd Powys a Chymorth Canser Macmillan a all gefnogi pobl a allai fod eisiau sefydlu eu grŵp cymorth lleol eu hunain. 

Bydd gel llaw ar gael yn y digwyddiad ac mae croeso i bobl sy'n mynychu wisgo masg wyneb os ydynt yn teimlo bod hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol iddynt

Mae rhagor o fanylion am y rhaglen Gwella'r Daith Canser ym Mhowys ar gael yn: https://cy.powysrpb.org/icjpowys