Digwyddiadau recriwtio i swyddi gofal a chymorth
14 Mehefin 2022
Dewch draw un o'r digwyddiadau recriwtio ar draws y sir i wybod mwy am weithio yn ein timoedd ailalluogi.
Mae'r rhain yn gyfle i'r rhai sydd â diddordeb yn y gwaith i weld pa swyddi sydd ar gael ac i ofyn cwestiynau i'r tîm cyfeillgar. Bydd ein staff hefyd wrth law i arwain a rhoi cyngor ar sut i lenwi ffurflen gais.
Rydym yn croesawu unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa gofalu i ddod draw, p'un ai'n dechrau yn eich gyrfa, â phrofiad neu'n chwilio am her newydd.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal fel a ganlyn:
- Canolfan Waith, Y Drenewydd ar 22 Mehefin rhwng 2pm - 5pm
- Canolfan Waith Y Trallwng ar 29 Mehefin rhwng 10am - 12.30pm
Bydd cyfle hefyd i gael sgwrs â'r timoedd Cysylltu Bywydau a Maethu ac i glywed mwy am weithio yn ein cartrefi preswyl i blant yn Aberhonddu ac Ystradgynlais.
Galwch heibio un o'r digwyddiadau recriwtio yn eich ardal chi, gallwch archebu lle nawr ar https://forms.office.com/r/fBYaeevM9n
I weld ein swyddi gwag ar hyn o bryd, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/swyddi