Prosiect Cymru Wledig yn dathlu llwyddiant
20/06/2022
Derbyniodd Dyfodol Cambrian gwobr am ei gyflawniadau mewn digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Fawr.
Daeth y prosiect i'r brig yn y categori Cymunedau, yn y Digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, Llywodraeth Cymru, sy'n dathlu llwyddiannau prosiectau a gyflwynwyd o fewn Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.
Cafodd y prosiect, dan arweiniad rhaglen LEADER Cyngor Sir Powys ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, ei gydnabod am ei waith i gefnogi busnesau a chymunedau lleol.*
Mae ei waith gwych wedi codi proffil Mynyddoedd Cambria fel lleoliad i dwristiaid. Mae hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol a darparwyr twristiaeth i ddatblygu cymunedau gwledig cynaliadwy a chadarn.
Ychwanegodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar faterion Powys Fwy Lewyrchus: "Mae Mynyddoedd Cambria wrth galon Cymru, ac mae'n newyddion gwych bod y prosiect hwn wedi cael ei gydnabod am ei waith i ddatblygu twristiaeth yn yr ardal hon sy'n aml yn cael ei hanwybyddu."