Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Cymru Wledig yn dathlu llwyddiant

An award

20/06/2022

An award
Mae prosiect i roi Mynyddoedd Cambria ar y map wedi cipio gwobr genedlaethol.

Derbyniodd Dyfodol Cambrian gwobr am ei gyflawniadau mewn digwyddiad deuddydd a gynhaliwyd ar Faes y Sioe Fawr.

Daeth y prosiect i'r brig yn y categori Cymunedau, yn y Digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, Llywodraeth Cymru, sy'n dathlu llwyddiannau prosiectau a gyflwynwyd o fewn Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020.

Cafodd y prosiect, dan arweiniad rhaglen LEADER Cyngor Sir Powys ac mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, ei gydnabod am ei waith i gefnogi busnesau a chymunedau lleol.*

Mae ei waith gwych wedi codi proffil Mynyddoedd Cambria fel lleoliad i dwristiaid.  Mae hefyd yn gweithio gyda chynhyrchwyr lleol a darparwyr twristiaeth i ddatblygu cymunedau gwledig cynaliadwy a chadarn.

Ychwanegodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar faterion Powys Fwy Lewyrchus: "Mae Mynyddoedd Cambria wrth galon Cymru, ac mae'n newyddion gwych bod y prosiect hwn wedi cael ei gydnabod am ei waith i ddatblygu twristiaeth yn yr ardal hon sy'n aml yn cael ei hanwybyddu."