Annog Trigolion Powys i rannu eu barn ar weithgaredd corfforol
20 Mehefin 2022
Bydd arolwg ar-lein a grëwyd gan Chwaraeon Powys (a lansiwyd heddiw) yn cofnodi safbwyntiau trigolion, a fydd yn helpu i siapio cyfleoedd gweithgaredd corfforol ar draws y sir.
Nod Chwaraeon Powys, Tîm Datblygu Chwaraeon a Chymunedau Actif Powys, yw sicrhau fod manteision gydol oes a ddaw o gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol ym Mhowys o fewn cyrraedd i bawb.
Y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Bowys Fwy Llewyrchus: "Mae'r manteision corfforol a meddyliol a ddaw yn sgil gweithgaredd corfforol rheolaidd yn amlwg, ond mae llai o ddealltwriaeth fodd bynnag am yr hyn sy'n helpu ac yn rhwystro cyfranogiad mewn gweithgaredd corfforol ar draws Powys.
"Rwy'n annog cymaint o bobl ag sy'n bosibl i lenwi'r arolwg fel y gallwn gynnig y cyfleoedd cywir, ar yr amser iawn, ac yn y lleoedd iawn".
Roedd asesiad lles diweddar i'r sir gyfan, a gynhaliwyd gan Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Powys, yn dweud fod 40% o oedolion ym Mhowys ddim yn cwrdd â'r lefelau gweithgaredd corfforol a argymhellir, a bod oddeutu hanner o blant a phobl ifanc y sir yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos.
Mae'n rhoi darlun sydyn hefyd o syniadau gan drigolion a all hybu eu lefelau gweithgaredd corfforol gan gynnwys llwybrau diogel yn yr awyr agored sy'n agos at gartref gydag arwyddion gwell, cyfarpar chwarae newydd, a hyrwyddo gweithgareddau lleol sydd o fewn cyrraedd.
Mae Chwaraeon Powys yn awyddus i adeiladu ar y canfyddiadau hyn a dysgu mwy am yr hyn sy'n annog pobl i symud, ai peidio.
Gellir cael mynediad at yr arolwg ar https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/mae-eich-barn-yn-cyfrif ac mae'n agored tan Dydd Gwener 9 Medi 2022. I wybod mwy am yr arolwg neu i ofyn am fersiwn papur, cysylltwch ag Alan Samuel, Swyddog Ymgysylltu â Gweithgaredd Corfforol ar 01597 827629.