Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Passivhaus y Cyngor yn cipio gwobr rhagoriaeth

Image of new social housing development in Sarn

22 Mehefin 2022

Image of new social housing development in Sarn
Mae datblygiad tai cymdeithasol ynni isel newydd ym Mhowys wedi derbyn canmoliaeth uchel mewn gwobrau sy'n cydnabod y prosiectau adeiladu gorau yng Nghymru.

Gwnaeth cynllun Cyngor Sir Powys gymaint o argraff ar y beirniaid Rhagoriaeth Adeiladu yng Nghymru, fel y rhoddwyd gwobr arbennig i'r tîm y tu ôl i'r prosiect yng nghategori Eiddo Preswyl y Flwyddyn yn y seremoni yn Celtic Manor ar 17 Mehefin.

Y datblygiad gwerth £1.3m yn Sarn, a ddatblygwyd gan Dîm Tai Fforddiadwy'r cyngor, oedd y tai cymdeithasol cyntaf i gael eu hadeiladu ar gyfer yr awdurdod lleol mewn 30 mlynedd a'r cyntaf erioed i fodloni amodau caeth Passivhaus.

Cynlluniwyd y cartrefi gan Hughes Architects gyda chymorth arbenigwyr Passivhaus PYC o'r Trallwng a pheiriannwyr ymgynghori sifil a strwythurol Bradley Associates Ltd o Gaerdydd ac fe'u hadeiladwyd gan Gontractwyr Adeiladu Pave Aways.

Mae'r saith cartref sy'n defnyddio ynni'n effeithlon — cymysgedd o fyngalos dwy ystafell wely a thai dwy a thair ystafell wely yn defnyddio dulliau adeiladu ynni isel ac yn cynnwys nodweddion cynaliadwyedd megis paneli solar a systemau adfer awyru gwres mecanyddol sy'n lleihau costau rhedeg i denantiaid.

Defnyddiwyd pren wedi'i dyfu yng Nghymru ar gyfer y ffrâm bren tra defnyddiwyd deunydd insiwleiddio ffibr seliwlos, a weithgynhyrchwyd o bapur newydd wedi'i ailgylchu, i leihau'r defnydd o blastigau.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Rwy'n falch iawn bod ein tai cymdeithasol cyntaf i gael eu hadeiladu mewn 30 mlynedd wedi cael eu cydnabod yn y seremoni wobrwyo fawreddog hon.

"Mae'r datblygiad gwych ac arloesol hwn wedi'i adeiladu i'r safon Passivhaus ynni isel eithriadol a fydd yn helpu i leihau allyriadau carbon a bydd gan denantiaid filiau ynni is."

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Pave Aways, Steven Owen: "Dyma'r cartrefi Passivhaus cyntaf i ni eu hadeiladu felly mae cael y gydnabyddiaeth hon mewn categori ochr yn ochr â phrosiectau mawr eraill yn gamp fawr.

"Roedd safle heriol, bwlch lleol yn y sgiliau arbenigol oedd eu hangen i adeiladu ar y fanyleb ynni isel hon a'r pandemig coronafeirws i gyd yn rhwystrau i'w goresgyn i ddarparu'r cartrefi hyn y mae mawr eu hangen, felly rydym yn falch iawn o dîm Pave Aways a phawb sy'n gysylltiedig â'r wobr hon."

Ychwanegodd Richard Lewis, cyfarwyddwr gyda Hughes Architects: "Gwnaeth y cleient benderfyniad dewr i dargedu ardystiad Passivhaus ar safle heriol, ond dangosodd y tîm cyfan o'r cleientiaid, contractwyr a dylunwyr y gellir cyflawni prosiectau cymhleth yma yng Nghanolbarth Cymru."