Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwyddiant Efydd i Ysgol Iau Mount Street

Image of a group of people

22 Mehefin 2022

Image of a group of people
Mae ysgol gynradd yn ne Powys sydd wedi creu amgylchedd positif i blant y Lluoedd Arfog wedi derbyn gwobr fawreddog oddi wrth y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg.

Ysgol Iau Mount Street yn Aberhonddu yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni Statws Efydd Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog SSCE Cymru.

Mae'r ysgol wedi derbyn eu tystysgrif oddi wrth y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg ar ddydd Llun, 13 Mehefin.

Wedi'i ariannu gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae'r Statws Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog yn anelu tuag at:

  1. Sefydlu arfer da i gefnogi plant y Lluoedd Arfog
  2. Creu amgylchedd positif i blant y Lluoedd Arfog i rannu eu profiadau
  3. Annog ysgolion i ymgysylltu mwy gyda'u cymuned Lluoedd Arfog.

Mae'r statws yn arddangos ymroddiad yr ysgol tuag at y gymuned Lluoedd Arfog.

Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog dros Addysg a'r Iaith Gymraeg: "Mae Ysgol Iau Mount Street yn arwain y ffordd wrth gynnig croeso cynnes a chyfeillgar i blant y Lluoedd Arfog, tra'n meithrin perthnasoedd gwirioneddol bwysig gyda chymuned leol y Lluoedd Arfog. Llongyfarchiadau i Mount Street am fod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni Gwobr Efydd Ysgolion sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog. 

Dywedodd Cyng. Pete Roberts, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Camp wych yw bod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gyflawni statws efydd ac fe fyddwn yn hoffi llongyfarch pawb yn Ysgol Iau Mount Street ar eu llwyddiant."

Dywedodd Mr Julian Hopkins, Pennaeth Ysgol Iau Mount Street: "Mae'r Wobr yn arwydd o ethos cynhwysol yr ysgol. Gall bywydau teuluoedd y lluoedd arfog fod yn heriol ac mae'n hanfodol i'n dull fel Ysgol Gymunedol, fod holl aelodau newydd y gymuned yn cael eu croesawu ac yn derbyn y gefnogaeth orau bosibl i ymgartrefu.

"Y peth hyfryd yw bod disgyblion y Lluoedd Arfog yn cymhathu'n gyflym i mewn i'r ysgol. Mae clod mawr am hyn i blant eraill a staff. Mae'r ysgol yn cydnabod fod y cyfnod pontio i blant y Lluoedd Arfog yn ffordd o fyw, ac nid yn unig y mae'n her, ond mae i'w ddathlu hefyd, gan y gall plant o gefndiroedd amrywiol ymuno â'n cofrestr.

"Rydym yn falch iawn o'r Wobr ac mae gweithio gyda SSCE Cymru wedi cynnig strategaeth glir i ni wrth ddatblygu'r ddarpariaeth hon. Anrhydedd fawr yw bod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn hyn.

Dywedodd y Brigadydd Andrew Dawes CBE, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru: "Ar ran y gymuned filwrol a leolir neu sydd wedi sefydlu yng Nghymru, rwyf wrth fy modd fod y cynllun hwn yn cydnabod y gefnogaeth hanfodol mae ein plant yn ei dderbyn o fewn yr ysgolion gwych rydym wedi'u bendithio â hwy yma ar draws Cymru. Diolch am eich cefnogaeth anhygoel ac am barhau i feithrin addysg ein plant fel Ysgol sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog. Llongyfarchiadau am y gydnabyddiaeth arbennig hon."

Dywedodd Millie Taylor, Rheolwr Rhaglen SSCE Cymru: "Mae lansiad Ysgolion Cymru sy'n Cefnogi'r Lluoedd Arfog wedi bod yn llwyddiant enfawr ac yn ffordd wych o gydnabod y cydweithrediad sy'n tyfu rhwng addysg a'r gymuned Lluoedd Arfog. Mae tîm SSCE Cymru yn gweithio'n agos gydag ysgolion led led Cymru i'w cefnogi i ddeall anghenion plant y Lluoedd Arfog, gan ddathlu eu profiadau ac ymgysylltu gyda'r Lluoedd Arfog.

"Llongyfarchiadau i Ysgol Iau Mount Street ar fod yn ysgol gyntaf Cymru i dderbyn eu statws Efydd. Dyma lwyddiant llwyr haeddiannol ac rydym yn edrych ymlaen at rannu enghreifftiau o'u harfer da gyda llawer iawn o ysgolion yng Nghymru."