Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gaer i barhau ar agor ar y Sul diolch i gymorth gan gyngor y dref

Image of y Gaer

22 Mehefin 2022

Image of y Gaer
Bydd atyniad y Gaer yn Aberhonddu yn parhau i gynnwys y Sul fel rhan o'i wythnos agor diolch i grant hael gan y cyngor tref.

Mae Cyngor Tref Aberhonddu wedi darparu £40,000 arall i gefnogi gweithgareddau ac arddangosfeydd hamdden yn y Gaer i helpu i hyrwyddo twristiaeth ac annog ymwelwyr i'r dref.

Dywedodd y Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Llewyrchus, Cyngor Sir Powys:  "Mae'r Gaer yn atyniad diwylliannol a hanesyddol bwysig yn Aberhonddu gyda llyfrgell ac amgueddfa drawiadol.  Wrth i'r tymor twristiaeth gyrraedd ei anterth, rydym am wneud y defnydd gorau o'n cyfleuster ac rydym am ddiolch i Gyngor Tref Aberhonddu am ddarparu'r grant hael hwn.

"Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau, a staff ychwanegol ar gyfer agor ar y Sul fel y gall cymaint o ymwelwyr â phosibl mwynhau atyniad unigryw canol y dref."

Dywedodd maer Aberhonddu, y Cyng David Meredith: "Trwy gydnabod pwysigrwydd arwyddocaol cyfleuster mor wych yng nghanol y dref, cytunodd Cyngor Tref Aberhonddu i gyfrannu'n sylweddol er mwyn sicrhau bod modd iddo fod ar agor ar ddydd Sul, nid yn unig er budd pobl leol ond ar gyfer ymwelwyr â'r dref."

Mae'r Gaer yn brysur yn cynllunio ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni i blant a chymunedau yn ogystal â chyflwyno rhaglen o weithgareddau sy'n cefnogi arloesedd a chreadigrwydd drwy'r thema "Teclynwyr".

Fis diwethaf (Mai) croesawyd y sesiynau amser stori poblogaidd i blant ifanc yn ôl.  Bydd y rhain yn cael eu hategu gan weithgareddau chwarae blêr ar ddiwedd y mis hwn.

Yn ystod yr haf eleni bydd hefyd llawer o ddigwyddiadau ar gyfer y teulu cyfan gyda'r Haf o Hwyl yn y Gaer.

Bydd arddangosfa deithiol arbennig iawn gan Amgueddfa Cymru, CELF AR Y CYD ar Daith, hefyd yn ymweld â'r Gaer a bydd yn cynnwys hoff weithiau celf y cyhoedd o gasgliad cenedlaethol Cymru.