Toglo gwelededd dewislen symudol

Gardd Bywyd Gwyllt a Synhwyraidd Newydd ar gyfer Tref-y-clawdd

Image of the wildlife garden in Knighton

23 Mehefin 2022

Image of the wildlife garden in Knighton
Ar y cyd â gwirfoddolwyr a staff, mae Partneriaeth Natur Powys wedi helpu i greu gardd bywyd gwyllt a synhwyraidd cymunedol newydd yng Nghanolfan Gymunedol a Llyfrgell Tref-y-clawdd a'r Cylch fel rhan o gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.  

Gydag arian oddi wrth Lywodraeth Cymru a chymorth a chefnogaeth y gymuned, mae'r ardd yn y ganolfan wedi cael ei hestyn i ddatblygu hafan bywyd gwyllt yng nghanol Tref-y-clawdd lle y gall pawb ddod ynghyd ac ymgysylltu â natur. Mae coed, prysglwyni a channoedd o fylbiau wedi cael eu plannu i helpu denu peillwyr a bywyd gwyllt arall, ochr yn ochr â dôl o flodau gwyllt cynhenid newydd, heb anghofio man i dyfu ffrwythau a llysiau.

Mae'r prosiect wedi derbyn llawer o gefnogaeth oddi wrth y gymuned. Dyluniwyd yr ardd a chyflwynwyd cyngor gan Michelle Brinkhurst, dylunydd gardd lleol. Mae Men's Shed Tref-y-clawdd, y Clwb Rotari, Grŵp Amgylcheddol Dyffryn Tefeidiad ac amrywiol aelodau'r gymuned wedi bod yn garedig yn cyfrannu cynhwysyddion a photiau plannu, hadau, a chyfarpar i helpu'r prosiect, ochr yn ochr â thŷ gwydr, sied, meinciau, deildy, cynhwysyddion a photiau plannu, casgenni dŵr ac offer garddio a brynwyd gydag arian y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  

"Mae'r prosiect gardd hyfryd hwn wedi bod yn weithgaredd cymunedol go iawn," Esboniodd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Mae gweld gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol yn cydweithio gyda Phartneriaeth Natur Powys i ddatblygu noddfa mor neilltuol ar gyfer natur wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb am eu hymdrechion.

"Mae'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn canolbwyntio ar ymgysylltu â chymunedau i fynd ati'n weithgar i greu a gwella lleoedd ar gyfer natur, a dyma'n union pam mae hyn yn digwydd yma. Gyda thystiolaeth yn awgrymu fod treulio amser o fewn byd natur o fudd i'n lles meddyliol a chorfforol, rydym yn sicr y bydd y gymuned gyfan yn elwa ar fuddion yr ardd bywyd gwyllt a synhwyraidd anhygoel a newydd hon."

Gyda'r tywydd cynhesach, mae'r ardd wedi dechrau dod i fywyd felly bydd pobl, sy'n defnyddio'r ganolfan gymunedol a'r llyfrgell, a adwaenir yn lleol fel 'The Comm', yn gallu eistedd a mwynhau natur yn ystod eu hymweliad.

Mae'r cynghorwyr sir lleol, Cyng. Corinna Kenyon-Wade a Cyng. Ange Williams yn awyddus i annog pawb i gymryd rhan ac elwa o'r ardd newydd: "Mae llu o gyfleoedd i bawb i dorchi llawes gyda'r clwb garddio a rhoi tro ar dyfu ffrwythau a llysiau eu hunain.

"Bydd y grwpiau plant Aros a Chwarae a Natur a Gwyddoniaeth a leolir yn The Comm hefyd yn defnyddio'r ardd i ddysgu mwy am natur ac yn helpu i ddenu mwy o fywyd gwyllt trwy wneud gwestai i drychfilod a phentyrrau cynefinoedd.

"Hoffem weld cymaint o bobl ag sy'n bosibl yn defnyddio'r ardd ac yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored gyda natur yn eu hamgylchynu."